Search Legislation

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5Cynlluniau

Cynlluniau ansawdd aer

20.—(1Os yw lefel sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm neu PM10 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn yn Atodlen 1, neu os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerth targed perthnasol yn Atodlen 2, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer er mwyn cyrraedd y gwerth terfyn neu'r gwerth targed perthnasol yn y parth hwnnw.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi dynodi parthau lle y mae gwerthoedd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer PM10 oherwydd ail-ddaliant gronynnau yn sgil gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf, yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, dim ond i'r graddau y mae gwerthoedd uwch na'r gwerthoedd terfyn hynny i'w priodoli i ffynonellau PM10 ac eithrio gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf y mae dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i'r parthau hynny.

(3Os yw lefel yr osôn mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd targed ar gyfer osôn yn Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, os yw'n briodol, lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth targed perthnasol oni fyddai'r camau angenrheidiol ar gyfer cyrraedd y gwerth targed hwnnw'n arwain at gost anghymesur.

(4Rhaid i gynllun ansawdd aer o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys camau y bwriedir iddynt sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw werth terfyn perthnasol o fewn yr amser byrraf posibl.

(5Os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol mewn unrhyw barth, ar unrhyw adeg cyn 31 Rhagfyr 2014, yn uwch na'r lefel a gyfrifwyd drwy gymhwyso'r ffin goddefiant ar gyfer y llygrydd hwnnw yn Atodlen 1 i'r gwerth terfyn perthnasol yn yr Atodlen honno, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw yn y parth hwnnw.

(6Rhaid i gynllun ansawdd aer gynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 6.

(7Pan fo hynny'n bosibl, rhaid i gynllun ansawdd aer fod yn gyson â chynlluniau eraill a lunnir yn unol ag ymrwymiadau a osodir o dan—

(a)Cyfarwyddeb 2001/80/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi mawr(1),

(b)Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfynau cenedlaethol uchaf ar allyriadau ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol, a

(c)Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu a rheoli sŵ n amgylcheddol(2).

(8Os bydd cynllun ansawdd aer yn ofynnol mewn perthynas â mwy nag un llygrydd mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo hynny'n briodol, lunio a gweithredu cynllun integredig ar gyfer y parth hwnnw mewn perthynas â phob llygrydd o dan sylw.

Cynlluniau gweithredu cyfnod byr

21.—(1Os oes risg y bydd y lefel o sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, mewn unrhyw barth, yn croesi un neu fwy o'r trothwyon rhybuddio a osodir yn Atodlen 4, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr.

(2Rhaid i gynllun gweithredu cyfnod byr osod y camau a fwriedir ar gyfer lleihau'r risg o groesi'r trothwyon rhybuddio, neu, os croesir y trothwyon hynny, ar gyfer cwtogi'r amser y pery'r digwyddiad.

(3Os yw lefel yr osôn, mewn unrhyw barth, yn croesi'r trothwy rhybuddio a osodir yn Atodlen 4 neu os oes risg y bydd yn croesi'r trothwy hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr gan roi sylw i Benderfyniad 2004/279/EC(3), os ydynt o'r farn ei bod yn rhesymol debygol ei bod yn bosibl lleihau'r risg sy'n deillio o'r cyfryw ddigwyddiad neu leddfu ei ddifrifoldeb neu gwtogi'r amser y mae'n para o ystyried cyflyrau daearyddol, meteorolegol ac economaidd.

(4At ddibenion paragraff (3), rhaid i'r lefel groesi'r trothwy rhybuddio am dair awr o leiaf yn olynol neu mae'n rhaid rhagfynegi y bydd hynny'n digwydd.

(5Caniateir llunio hefyd gynlluniau gweithredu cyfnod byr pan fo risg y bydd gwerthoedd yn uwch nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn neu'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlenni 1 a 2.

Cyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynllun ansawdd aer a chynllun gweithredu cyfnod byr

22.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyhoedd pan fo Gweinidogion Cymru'n cynnig paratoi, addasu neu adolygu cynllun ansawdd aer neu gynllun gweithredu tymor byr.

(2Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu'r cyhoedd ynghylch y cynnig, ynghylch unrhyw wybodaeth gefndirol berthnasol ac ynghylch hawl y cyhoedd i gyfranogi yn y weithred o lunio'r cynllun,

(b)pennu ym mha fodd y gall y cyhoedd gyfranogi yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhoi cyfeiriad ar gyfer anfon ymatebion, ac amserlen resymol ar gyfer yr ymgynghoriad, ac

(c)rhoi sylw i ganlyniadau'r ymgynghoriad wrth lunio'r cynllun.

(3Pan gyhoeddir y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd am y rhesymau dros gynnwys y cynllun ynghyd â gwybodaeth ynghylch proses gyfranogi gan y cyhoedd sydd wedi ei chyflawni.

(1)

OJ Rhif L 309, 27.11.01, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC (OJ Rhif L 140, 5.6.09, t.114).

(2)

OJ Rhif L 189, 18.7.02, t.12, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.08, t.1).

(3)

OJ Rhif L 87, 25.3.04, t.50

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources