Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

3.—(1Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(1) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2, rhodder—

2(1) Rhaid cynnal arolygiadau—

(a)os nad oes arolygiad blaenorol wedi ei gynnal, o fewn chwe blynedd i ddyddiad sefydlu'r sefydliad sy'n darparu addysg a hyfforddiant ac sydd i'w arolygu, a

(b)ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.

(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad arolygu diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf..

(1)

O.S. 2001/2501 (Cy.204) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy.80)), a Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)).