Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(1) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2, rhodder—
“2—(1) Rhaid cynnal arolygiadau—
(a)os nad oes arolygiad blaenorol wedi ei gynnal, o fewn chwe blynedd i ddyddiad sefydlu'r sefydliad sy'n darparu addysg a hyfforddiant ac sydd i'w arolygu, a
(b)ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad arolygu diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.”.
O.S. 2001/2501 (Cy.204) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy.80)), a Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)).