Y diwrnod penodedig2
21 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ddod i rym—
a
adran 140, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12;
b
adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau a grybwyllir ym mharagraff (ch);
c
Rhan 2 o Atodlen 12; ac
ch
y diddymiadau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 4 o Atodlen 15 sy'n ymwneud ag adrannau 174 i 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 8 iddi2.