Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Y diwrnod penodedig

2.  21 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ddod i rym—

(a)adran 140, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12;

(b)adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau a grybwyllir ym mharagraff (ch);

(c)Rhan 2 o Atodlen 12; ac

(ch)y diddymiadau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 4 o Atodlen 15 sy'n ymwneud ag adrannau 174 i 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 8 iddi(1).