xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1457 (Cy.130) (C.83)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010

Gwnaed

19 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2010.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  21 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ddod i rym—

(a)adran 140, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12;

(b)adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau a grybwyllir ym mharagraff (ch);

(c)Rhan 2 o Atodlen 12; ac

(ch)y diddymiadau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 4 o Atodlen 15 sy'n ymwneud ag adrannau 174 i 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 8 iddi(2).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 21 Mai 2010 ddarpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (“y Ddeddf”) sy'n ymwneud â chyllido gwariant ar wasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Dyma'r prif newidiadau: yn gyntaf, y bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau fferyllol cymunedol a oedd gynt wedi ei ddal yn ganolog yn dod yn rhan o'r dyraniadau a roddir i Fyrddau Iechyd Lleol; ac yn ail, y rhoddir pwerau i Weinidogion Cymru i ddynodi unrhyw elfen o'r gydnabyddiaeth a delir gan Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer gwasanaethau fferyllol cymunedol ac nad yw'n elfen sydd i'w phriodoli i gost cyffuriau. Mecanwaith yw dynodiad sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru reoli'r ffordd y dyrennir cyllido elfen ddynodedig rhwng Byrddau Iechyd Lleol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

Nodyn am y gorchmynion cychwyn blaenorol

Cafodd darpariaethau canlynol y Ddeddf eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. rhif
a.14819 Ebrill 20102010/989 (Cy.98)
a.1476 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
a.166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15)6 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
Atodlen 136 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
Rhan 5 o Atodlen 156 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)