2010 Rhif 1492 (Cy.135)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at ddarpariaethau Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac Atodiad XIII i'r Rheoliad hwnnw, sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl)2 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y cyfnod yr oedd y Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19904, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19725 ac adrannau 6(4), 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru7.