ATODLEN 1Y GOFYNION AR GYFER SEILOS
1
Y gofyniad sydd i'w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.
2
Rhaid i sylfaen y seilo—
a
ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i'r seilo;
b
cael o'i amgylch sianelau sydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy'n dianc o'r seilo; ac
c
bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer traenio'r elifiant hwnnw o'r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
3
Rhaid i'r tanc elifiant beidio â dal llai na–
a
yn achos seilo sy'n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o'r hyn y mae'r seilo yn ei ddal; ac
b
yn achos seilo sy'n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o'r hyn y mae'r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.
4
1
Rhaid i sylfaen y seilo—
a
bod wedi'i ddylunio yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 19876; neu
b
bod wedi ei adeiladu gan ddefnyddio asffalt poeth wedi'i droelli yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 19907.
2
Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
5
Rhaid i sylfaen a muriau'r seilo, ei danc elifiant a'i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.
6
Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o'r seilo, ei danc elifiant na'i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 o fetrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.
7
Os oes gan y seilo furiau cynnal—
a
rhaid i'r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi'u cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraffau 15.6 o'r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 20038;
b
rhaid i'r seilo beidio â bod wedi'i lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw'r dyfnder eithaf sy'n gyson â'r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal; ac
c
rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o'r cod ymarfer hwnnw.
8
Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i'r seilo, ei danc elifiant a'i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi'u dylunio a'u hadeiladu fel y'u bod yn debygol, gyda'r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw'n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.
9
Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i'r tanc fod wedi'i ddylunio a'i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.