xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Gwnaed
16 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Mehefin 2010
Yn dod i rym
18 Mehefin 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef(2).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Dirymu) 2010 a deuant i rym ar 18 Mehefin 2010.
2.—(1) Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008(3).
(2) Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008(4).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/781 (Cy.80)) (“y prif Reoliadau”) ynghyd â Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/1646 (Cy.159)).
2. Rhoddodd y prif Reoliadau ar waith, o ran Cymru, Benderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25). Dirymwyd Penderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/315/EU sy'n dirymu Penderfyniad 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis, ac yn darparu ar gyfer profi ar hap am absenoldeb yr organedd hwnnw mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L141, 9.6.2010, t.10).
O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn i Weinidogion Cymru gan baragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.