Cynnwys yr hysbysiad cosb
31. Rhaid i hysbysiad cosb a roddir gan awdurdod gorfodi—
(a)rhoi pa a bynnag fanylion sy'n angenrheidiol am yr amgylchiadau, yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd cosb, i gyfleu gwybodaeth resymol am y tramgwydd;
(b)datgan swm y gosb;
(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 33, na chychwynnir achos ynglŷn â'r tramgwydd;
(ch)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu'r gosb; a
(d)datgan rhaid peidio â thalu mewn arian parod.