2010 Rhif 1699 (Cy.160) (C.87)
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Pant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Y diwrnod penodedig ar gyfer ardaloedd a bennir2
1
Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys o ran yr ardaloedd awdurdod lleol a bennir yn erthygl 3.
2
Daw'r darpariaethau hynny yn Rhan 3 o Fesur 2010 a nodir yn yr Atodlen i rym ar 1 Medi 2010.
Ardaloedd a bennir3
Ardaloedd yr awdurdodau lleol a bennir at ddibenion erthygl 2 yw —
a
Merthyr Tudful2;
b
Casnewydd;
c
Rhondda Cynon Taf; ac
ch
Wrecsam.
YR ATODLEN 1
1
Adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd)
2
Adran 58 ac eithrio is-baragraffau (b), (c) a (d) o is-adran (6) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd)
3
Adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd)
4
Adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd)
5
Adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
6
Adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
7
Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
8
Adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd)
9
Adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)