ATODLEN 2Ystyriaethau y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt
RHAN 2Y teulu
5.
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
6.
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i'r teulu sy'n berthnasol gan gynnwys rhoi camau gweithredu ar waith o adolygiadau blaenorol.
7.
Unrhyw newid yng ngallu'r rhieni i gyflawni rôl rhieni o ganlyniad i wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarparwyd neu o ganlyniad i ffactorau eraill.
8.
Unrhyw anawsterau a brofodd y teulu o bosibl wrth ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
9.
P'un a oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion yr oedolion a sut y gellir ei ddatrys.
10.
Yr angen i baratoi am ddod ag ymgysylltiad y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.