Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cafodd yr Offeryn Statudol hwn ei ailargraffu er mwyn cywiro rhif yr offeryn a dyroddir ef yn ddi-d 226 l i bawb y gwyddys eu bod wedi derbyn OS 2010/1791(Cy.173)

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1797 (Cy.173)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

10 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Gorffennaf 2010

Yn dod i rym

31 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11 iddi, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 iddi a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help