2010 Rhif 1807 (Cy.175)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y n dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau y maent yn eu diwygio, Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a GrantiauAmaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 (“y prif Reoliadau”), yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae cyfeiriadau at offerynnau'r UE yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau. Mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y prif Reoliadau at offerynnau'r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.