2010 Rhif 1807 (Cy.175)
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2010
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y n dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau y maent yn eu diwygio, Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a GrantiauAmaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 (“y prif Reoliadau”), yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae cyfeiriadau at offerynnau'r UE yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau. Mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y prif Reoliadau at offerynnau'r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2010.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 9 Awst 2010.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20062
1
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20063 yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Yn rheoliad 2(1) ac yn yr Atodlen disodler cyfeiriadau at “y ddeddfwriaeth Gymunedol” gyda chyfeiriadau at “deddfwriaeth yr UE”.
3
Yn rheoliad 2(2) yn lle'r cyfeiriad at “offeryn Cymunedol” rhodder cyfeiriad at “offeryn UE”.
4
Yn yr Atodlen ar ôl paragraff (12) ychwaneger—
13
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad at gymorth Gwladwriaethol i fentrau bychain a chanolig eu maint sy'n weithgar yn cynhyrchu cynnyrch amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/20014.
14
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr5.
15
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr6.
16
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1121/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed y cynlluniau cymorth i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a V o'r Rheoliad hwnnw7.
17
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr a ddarperir ar gyfer y Rheoliad hwnnw, yn ogystal ag ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed traws-gydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir ar gyfer y sector win8.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)