Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005

2.—(1Mae Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)yn lle'r diffiniad o “oats” rhodder—

“oats” means plants of the species Avena nuda L. and Avena sativa L ;

(b)yn lle'r diffiniad o “triticale” rhodder—

“triticale” means plants of the species xTriticosecale Wittm. Ex A. Camus (which are hybrids resulting from the crossing of a species of the genus Triticum and a species of the genus Secale);

(c)yn lle'r diffiniad o “wheat” rhodder—

“wheat” means plants of the species Triticum aestivum L.; ac

(ch)yn lle'r diffiniad o “wild oats” rhodder—

“wild oats” means plants of the species Avena fatua and Avena sterilis.

(3Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 12(2) yn lle “Agropyron repens” rhodder “Elytrigia repens”;

(b)ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar gyfer “(i) barley” rhodder “(i) barley (other than CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type)”; ac

(c)ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod “(b) CS, C1 and C2 seed of oats officially classified as being of a naked oak type” mewnosoder y rhes ganlynol—

(ba)CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type

75

.

(4Yn Atodlen 8 ym mharagraffau 1(e), 9(l) a 14(b)(ix) ar ôl “oats” mewnosoder “or barley” ac ar ôl “naked oat” mewnosoder “or a naked barley”.

(1)

O.S. 2005/3036 (Cy.224), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131).