2010 Rhif 1820 (Cy.177)
Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010
Wedi'u gwneud
Y n dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan—
adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 19951;
adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20082; ac
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723. (Mae Gweinidogion Cymru wedi' u dynodi 4 at ddibenion y Ddeddf honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio, o ran llygrynnau organig parhaus, sylweddau, paratoadau a chemegau peryglus, o ran mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac o ran mesurau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli defnyddio llaid carthion mewn amaethyddiaeth).
Yn unol ag adran 93(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r cyrff a'r personau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli cyrff neu bersonau y mae'r Rheoliadau hyn yn effeithio'n sylweddol arnynt; mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, yn unol ag adran 93(3) o'r Ddeddf honno, o ran y materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno; ac mae Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwn yn y modd y bennir ei fod yn orau i sicrhau nad yw'n arwain at gyfyngu, aflunio neu atal cystadleuaeth yn unol ag adran 93(7) o'r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 66 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o'r Ddeddf honno wrth arfer y pwerau yn y Rheoliadau hyn.
Mae drafft o'r rheoliadau hyn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 ac adran 93(10) o Ddeddf yr Amgylchedd 19955.