(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys yng Nghymru, yn diwygio—

  • Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth) 1989 (O.S. 1989/1263)

  • Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1043)

  • Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy.138))

  • Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871)

Mae'r diwygiadau'n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd osod sancsiynau sifil penodedig mewn perthynas â rhai thoriadau o'r Rheoliadau hynny. Y sancsiynau yw'r rhai a ganiateir o dan Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.

Paratowyd asesiad effaith ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.