RHAN 4Gweinyddu

Apelau

10.—(1I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y gwneir apêl o dan y Gorchymyn hwn.

(2Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) lle mae cyflawni tramgwydd yn fater y mae angen penderfynu arno, rhaid i'r rheoleiddiwr brofi'r tramgwydd hwnnw yn ôl yr un baich prawf a'r un safon prawf ag mewn erlyniad troseddol.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r tribiwnlys bennu safon y prawf.

(4Mae pob hysbysiad (heblaw hysbysiadau stop) yn cael eu hatal nes i'r apêl gael ei chynnal.

(5Caiff y Tribiwnlys atal neu amrywio hysbysiad stop.

(6Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(c)amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;

(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y rheoleiddiwr.