Search Legislation

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Hysbysiadau adennill cost gorfodi

8.—(1Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodi”) i berson y mae hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop wedi'i gyflwyno iddo yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dalu'r costau a dynnwyd gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod yr hysbysiad hwnnw hyd at adeg ei osod.

(2Mae costau'n cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i'r hysbysiad adennill cost gorfodi bennu—

(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;

(b)y swm y mae'n ofynnol i dalu;

(c)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;

(ch)sut y mae'n rhaid talu;

(d)yr hawl i apelio; a

(dd)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn y cyfnod penodedig.

(4Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r swm.

(5Nid yw'r person y mae'n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r person hwnnw'n dangos eu bod wedi'u tynnu'n ddiangen.

(6Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr ar swm y costau hynny; neu

(c)am unrhyw reswm tebyg arall.

Back to top

Options/Help