RHAN 4Gweinyddu

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio

9.  Mewn ysgrifen ar unrhyw adeg caiff rheoleiddiwr wneud y canlynol—

(a)tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;

(b)tynnu hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cosb diffyg cydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodi yn ôl neu ostwng y swm a bennir yn yr hysbysiad;

(c)tynnu hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad.