RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 15 Gorffennaf 2010.

Rheoleiddiwr2

Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r rheoleiddiwr at ddibenion y Gorchymyn hwn.

RHAN 2Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymrwymiadau

Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymrwymiadau3

1

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig.

2

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer ac ymrwymiadau trydydd parti.

3

Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau stop.

4

Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymrwymiadau gorfodi.

5

Mae i'r termau hynny nad ydynt wedi eu diffinio yn Neddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yr ystyron a bennir yn yr Atodlenni hynny.

Cwmpas4

Mae Atodlen 5 yn nodi'r darpariaethau sy'n creu'r tramgwyddau y mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy.

Cyfuno sancsiynau5

1

Ni chaiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig os oes cosb ariannol newidiol wedi'i gosod neu os oes hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop wedi'i gyflwyno i'r person hwnnw ynglŷn â'r un weithred neu anwaith.

2

Ni chaiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, na chyflwyno hysbysiad stop, i unrhyw berson, mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith—

a

os oes cosb ariannol benodedig wedi'i gosod ar y person hwnnw, neu

b

os yw'r person hwnnw wedi cyflawni ei rwymedigaeth dros gosb ariannol benodedig ar ôl i hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno gael ei gyflwyno.

RHAN 3Diffyg cydymffurfio a gorfodi

Adennill taliadau6

Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol neu gosb diffyg cydymffurfio ar orchymyn llys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Cosbau diffyg cydymffurfio7

1

Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymrwymiad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (“cosb diffyg cydymffurfio”) mewn perthynas â'r un tramgwydd ni waeth a gafodd cosb ariannol newidiol ei gosod hefyd neu beidio mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.

2

Rhaid i swm y gosb gael ei phennu gan y rheoleiddiwr, a rhaid iddo fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad neu'r ymrwymiad trydydd parti.

3

Rhaid i'r ganran gael ei phennu gan y rheoleiddiwr gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos ac, os yw'n briodol, gall fod yn 100%.

4

Rhaid i'r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

a

y seiliau dros osod y gosb diffyg cydymffurfio;

b

y swm sydd i'w dalu;

c

sut y mae'n rhaid talu;

ch

y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;

d

yr hawl i apelio;

dd

canlyniadau methu â thalu yn y cyfnod penodedig;

e

unrhyw amgylchiadau y gallai'r rheoleiddiwr ostwng swm y gosb odanynt.

5

Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu'r hysbysiad adfer neu os cyflawnir ymrwymiad trydydd parti cyn yr amser sydd wedi'i bennu ar gyfer talu'r gosb diffyg cydymffurfio, nid yw'r gosb yn daladwy.

6

Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad sy'n gosod y gosb diffyg cydymffurfio apelio yn ei erbyn.

7

Y seiliau dros apelio yw—

a

bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

c

bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm;

ch

bod swm y gosb yn afresymol;

d

unrhyw reswm tebyg arall.

Hysbysiadau adennill cost gorfodi8

1

Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodi”) i berson y mae hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop wedi'i gyflwyno iddo yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dalu'r costau a dynnwyd gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod yr hysbysiad hwnnw hyd at adeg ei osod.

2

Mae costau'n cynnwys yn benodol—

a

costau ymchwilio;

b

costau gweinyddu;

c

costau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

3

Rhaid i'r hysbysiad adennill cost gorfodi bennu—

a

y seiliau dros osod yr hysbysiad;

b

y swm y mae'n ofynnol i dalu;

c

y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;

ch

sut y mae'n rhaid talu;

d

yr hawl i apelio; a

dd

canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn y cyfnod penodedig.

4

Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r swm.

5

Nid yw'r person y mae'n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r person hwnnw'n dangos eu bod wedi'u tynnu'n ddiangen.

6

Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau apelio—

a

yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;

b

yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr ar swm y costau hynny; neu

c

am unrhyw reswm tebyg arall.

RHAN 4Gweinyddu

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio9

Mewn ysgrifen ar unrhyw adeg caiff rheoleiddiwr wneud y canlynol—

a

tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;

b

tynnu hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cosb diffyg cydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodi yn ôl neu ostwng y swm a bennir yn yr hysbysiad;

c

tynnu hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad.

Apelau10

1

I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y gwneir apêl o dan y Gorchymyn hwn.

2

Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) lle mae cyflawni tramgwydd yn fater y mae angen penderfynu arno, rhaid i'r rheoleiddiwr brofi'r tramgwydd hwnnw yn ôl yr un baich prawf a'r un safon prawf ag mewn erlyniad troseddol.

3

Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r tribiwnlys bennu safon y prawf.

4

Mae pob hysbysiad (heblaw hysbysiadau stop) yn cael eu hatal nes i'r apêl gael ei chynnal.

5

Caiff y Tribiwnlys atal neu amrywio hysbysiad stop.

6

Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

a

tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;

b

cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

c

amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;

ch

cymryd unrhyw gamau y gallai'r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;

d

cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y rheoleiddiwr.

Canllawiau ynghylch defnyddio sancsiynau sifil11

1

Pan roddir pŵer i reoleiddiwr yn y Gorchymyn hwn i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd—

a

rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y mae'n defnyddio'r sancsiwn;

b

yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;

c

rhaid i'r rheoleiddiwr ddiwygio'r canllawiau lle bo'n briodol;

ch

rhaid i'r rheoleiddiwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.

2

Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—

a

yr amgylchiadau y mae'r gosb yn debyg o gael ei gosod odanynt;

b

yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod odanynt;

c

swm y gosb;

ch

sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni; a

d

hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

3

Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—

a

yr amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debyg o gael ei osod odanynt;

b

yr amgylchiadau na chaniateir ei osod odanynt;

c

yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y rheoleiddiwr wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys adroddiad gwirfoddol gan unrhyw berson am ei ddiffyg cydymffurfio ei hun); ac

ch

hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

4

Yn achos canllawiau ynglŷn â hysbysiad stop, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—

a

yr amgylchiadau y mae'r rheoleiddiwr yn debyg o gyflwyno'r hysbysiad odanynt;

b

yr amgylchiadau na chaniateir ei gyflwyno odanynt; ac

c

hawliau i apelio.

Canllawiau ychwanegol12

Rhaid i'r rheoleiddiwr ddyroddi canllawiau sy'n ymwneud â defnyddio cosbau diffyg cydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodi sy'n pennu—

a

yr amgylchiadau y maent yn debyg o gael eu gosod odanynt;

b

yr amgylchiadau na chaniateir eu gosod odanynt;

c

materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth bennu'r swm sydd o dan sylw;

ch

hawliau i apelio.

Ymgynghori ynghylch canllawiau13

Rhaid i'r rheoleiddiwr ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Gorchymyn hwn.

Cyhoeddi camau gorfodi14

1

Pan roddir pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â thramgwydd, rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi o dro i dro adroddiadau sy'n pennu—

a

yr achosion y mae'r sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt;

b

os cosb ariannol benodedig yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae'r rhwymedigaeth i'r gosb wedi'i chyflawni drwy dalu'r gosb ar ôl yr hysbysiad o fwriad a heb i ragor o gamau gael eu cymryd;

c

os cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae ymrwymiad trydydd parti wedi'i dderbyn;

ch

achosion lle mae ymrwymiad gorfodi wedi'i wneud.

2

Ym mharagraff (1)(a) nid yw'r cyfeiriad at achosion y mae sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt yn cynnwys achosion lle mae'r sancsiwn wedi'i osod ond wedi'i ddileu mewn apêl.

3

Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru o'r farn na fyddai'n briodol cyhoeddi.

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Un o Weinidogion Cymru