Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 1821 (Cy.178)
YR AMGYLCHEDD, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010
Gwnaed
14 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
15 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 36(2), 39, 42, 46, 50, 52, 53, 54, 55, 63 a 65 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 59 o'r Ddeddf honno ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 60 o'r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, yn unol ag adran 66 o'r Ddeddf honno, y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Gorchymyn hwn) yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o'r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn.
Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno.
RHAN 1Rhagymadrodd
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 15 Gorffennaf 2010.
Rheoleiddiwr
2. Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r rheoleiddiwr at ddibenion y Gorchymyn hwn.
RHAN 2Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymrwymiadau
Sancsiynau sifil, hysbysiadau ac ymrwymiadau
3.—(1) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig.
(2) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer ac ymrwymiadau trydydd parti.
(3) Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau stop.
(4) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymrwymiadau gorfodi.
(5) Mae i'r termau hynny nad ydynt wedi eu diffinio yn Neddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yr ystyron a bennir yn yr Atodlenni hynny.
Cwmpas
4. Mae Atodlen 5 yn nodi'r darpariaethau sy'n creu'r tramgwyddau y mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy.
Cyfuno sancsiynau
5.—(1) Ni chaiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig os oes cosb ariannol newidiol wedi'i gosod neu os oes hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop wedi'i gyflwyno i'r person hwnnw ynglŷn â'r un weithred neu anwaith.
(2) Ni chaiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, na chyflwyno hysbysiad stop, i unrhyw berson, mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith—
(a)os oes cosb ariannol benodedig wedi'i gosod ar y person hwnnw, neu
(b)os yw'r person hwnnw wedi cyflawni ei rwymedigaeth dros gosb ariannol benodedig ar ôl i hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno gael ei gyflwyno.
RHAN 3Diffyg cydymffurfio a gorfodi
Adennill taliadau
6. Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol neu gosb diffyg cydymffurfio ar orchymyn llys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.
Cosbau diffyg cydymffurfio
7.—(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymrwymiad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (“cosb diffyg cydymffurfio”) mewn perthynas â'r un tramgwydd ni waeth a gafodd cosb ariannol newidiol ei gosod hefyd neu beidio mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.
(2) Rhaid i swm y gosb gael ei phennu gan y rheoleiddiwr, a rhaid iddo fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad neu'r ymrwymiad trydydd parti.
(3) Rhaid i'r ganran gael ei phennu gan y rheoleiddiwr gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos ac, os yw'n briodol, gall fod yn 100%.
(4) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod y gosb diffyg cydymffurfio;
(b)y swm sydd i'w dalu;
(c)sut y mae'n rhaid talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;
(d)yr hawl i apelio;
(dd)canlyniadau methu â thalu yn y cyfnod penodedig;
(e)unrhyw amgylchiadau y gallai'r rheoleiddiwr ostwng swm y gosb odanynt.
(5) Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu'r hysbysiad adfer neu os cyflawnir ymrwymiad trydydd parti cyn yr amser sydd wedi'i bennu ar gyfer talu'r gosb diffyg cydymffurfio, nid yw'r gosb yn daladwy.
(6) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad sy'n gosod y gosb diffyg cydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(7) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm;
(ch)bod swm y gosb yn afresymol;
(d)unrhyw reswm tebyg arall.
Hysbysiadau adennill cost gorfodi
8.—(1) Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodi”) i berson y mae hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop wedi'i gyflwyno iddo yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dalu'r costau a dynnwyd gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod yr hysbysiad hwnnw hyd at adeg ei osod.
(2) Mae costau'n cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i'r hysbysiad adennill cost gorfodi bennu—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)y swm y mae'n ofynnol i dalu;
(c)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;
(ch)sut y mae'n rhaid talu;
(d)yr hawl i apelio; a
(dd)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn y cyfnod penodedig.
(4) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r swm.
(5) Nid yw'r person y mae'n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r person hwnnw'n dangos eu bod wedi'u tynnu'n ddiangen.
(6) Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr ar swm y costau hynny; neu
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.
RHAN 4Gweinyddu
Tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio
9. Mewn ysgrifen ar unrhyw adeg caiff rheoleiddiwr wneud y canlynol—
(a)tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;
(b)tynnu hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cosb diffyg cydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodi yn ôl neu ostwng y swm a bennir yn yr hysbysiad;
(c)tynnu hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad.
Apelau
10.—(1) I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y gwneir apêl o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) lle mae cyflawni tramgwydd yn fater y mae angen penderfynu arno, rhaid i'r rheoleiddiwr brofi'r tramgwydd hwnnw yn ôl yr un baich prawf a'r un safon prawf ag mewn erlyniad troseddol.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r tribiwnlys bennu safon y prawf.
(4) Mae pob hysbysiad (heblaw hysbysiadau stop) yn cael eu hatal nes i'r apêl gael ei chynnal.
(5) Caiff y Tribiwnlys atal neu amrywio hysbysiad stop.
(6) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—
(a)tynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;
(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(c)amrywio'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y rheoleiddiwr.
Canllawiau ynghylch defnyddio sancsiynau sifil
11.—(1) Pan roddir pŵer i reoleiddiwr yn y Gorchymyn hwn i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd—
(a)rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y mae'n defnyddio'r sancsiwn;
(b)yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
(c)rhaid i'r rheoleiddiwr ddiwygio'r canllawiau lle bo'n briodol;
(ch)rhaid i'r rheoleiddiwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol benodedig, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r gosb yn debyg o gael ei gosod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod odanynt;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni; a
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
(3) Yn achos canllawiau ynglŷn â chosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debyg o gael ei osod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei osod odanynt;
(c)yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y rheoleiddiwr wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys adroddiad gwirfoddol gan unrhyw berson am ei ddiffyg cydymffurfio ei hun); ac
(ch)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
(4) Yn achos canllawiau ynglŷn â hysbysiad stop, gwybodaeth am y canlynol yw'r wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b)—
(a)yr amgylchiadau y mae'r rheoleiddiwr yn debyg o gyflwyno'r hysbysiad odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gyflwyno odanynt; ac
(c)hawliau i apelio.
Canllawiau ychwanegol
12. Rhaid i'r rheoleiddiwr ddyroddi canllawiau sy'n ymwneud â defnyddio cosbau diffyg cydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodi sy'n pennu—
(a)yr amgylchiadau y maent yn debyg o gael eu gosod odanynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir eu gosod odanynt;
(c)materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth bennu'r swm sydd o dan sylw;
(ch)hawliau i apelio.
Ymgynghori ynghylch canllawiau
13. Rhaid i'r rheoleiddiwr ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Gorchymyn hwn.
Cyhoeddi camau gorfodi
14.—(1) Pan roddir pŵer i reoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â thramgwydd, rhaid i'r rheoleiddiwr gyhoeddi o dro i dro adroddiadau sy'n pennu—
(a)yr achosion y mae'r sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt;
(b)os cosb ariannol benodedig yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae'r rhwymedigaeth i'r gosb wedi'i chyflawni drwy dalu'r gosb ar ôl yr hysbysiad o fwriad a heb i ragor o gamau gael eu cymryd;
(c)os cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio yw'r sancsiwn sifil, yr achosion lle mae ymrwymiad trydydd parti wedi'i dderbyn;
(ch)achosion lle mae ymrwymiad gorfodi wedi'i wneud.
(2) Ym mharagraff (1)(a) nid yw'r cyfeiriad at achosion y mae sancsiwn sifil wedi'i osod ynddynt yn cynnwys achosion lle mae'r sancsiwn wedi'i osod ond wedi'i ddileu mewn apêl.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru o'r farn na fyddai'n briodol cyhoeddi.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2010
Erthygl 3
ATODLEN 1Cosbau ariannol penodedig
Pŵer i osod cosb ariannol benodedig
1.—(1) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno yn dangos bod cosb o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Swm y gosb sydd i'w dalu i'r rhoeleiddiwr fel “cosb ariannol benodedig” yw £100 yn achos unigolyn neu £300 yn achos corff corfforaethol.
Hysbysiad o fwriad
2.—(1) Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb;
(c)datganiad y gall y rhwymedigaeth ynglŷn â'r gosb gael ei chyflawni drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law;
(ch)gwybodaeth am y canlynol—
(i)effaith y taliad cyflawni hwnnw;
(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(iii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
Cyflawni rhwymedigaeth
3. Mae'r gosb wedi'i chyflawni os bydd person sy'n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law.
Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau
4. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig.
Cyflwyno hysbysiad terfynol
5.—(1) Os na fydd y person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn cyflawni'r rhwymedigaeth o fewn 28 diwrnod caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol yn gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(3) Ni chaiff rheoleiddiwr sy'n cyflwyno hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r tramgwydd.
Cynnwys yr hysbysiad terfynol
6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaethtam y canlynol—
(a)swm y gosb;
(b)y seiliau dros osod y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod o 56 diwrnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)manylion y disgowntiau talu cynnar a'r cosbau talu hwyr;
(dd)hawliau i apelio; ac
(e)canlyniadau peidio â thalu.
Disgownt am dalu'n gynnar
7. Os cyflwynodd person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch yr hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw gyflawni'r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.
Seiliau dros apelio
8.—(1) Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm tebyg arall.
Methu â thalu ar ôl 56 diwrnod
9.—(1) Rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad terfynol ddod i law.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 56 diwrnod mae'r swm sy'n daladwy yn cynyddu 50%.
(3) Yn achos apêl mae'n daladwy o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu (os yw'r apêl yn aflwyddiannus) ac os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod mae swm y gosb yn cynyddu 50%.
Achosion troseddol
10.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law, a
(b)os bydd y person hwnnw yn cyflawni'r rhwymedigaeth fel hyn, ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb.
Erthygl 3
ATODLEN 2Cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer ac ymrwymiadau trydydd parti
Gosod cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer
1.—(1) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
(a)gofyniad bod rhaid talu cosb ariannol i reoleiddiwr o unrhyw swm a bennir gan y rheoleiddiwr (“cosb ariannol newidiol”);
(b)gofyniad bod rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir gan reoleiddiwr, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau na fydd y tramgwydd yn parhau neu'n ailddigwydd (“hysbysiad cydymffurfio”);
(c)gofyniad bod rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir gan reoleiddiwr, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo modd, yn cael ei hadfer i'r hyn a fuasai pe na bai'r tramgwydd wedi'i gyflawni (“hysbysiad adfer”),
neu unrhyw gyfuniad o'r gofynion hyn, mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno'n dangos bod cosb neu hysbysiad o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Ni chaniateir i ofyniad o dan y paragraff hwn gael ei osod ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
(4) Pan osodir cosb ariannol newidiol mewn perthynas â thramgwydd a all—
(a)cael ei brofi'n ddiannod yn unig, a
(b)cael ei gosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy (p'un a all gael ei gosbi drwy gyfnod o garchar hefyd neu beidio),
ni chaniateir i swm y gosb ariannol newidiol fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy honno.
(5) Cyn cyflwyno hysbysiad ynglŷn â chosb ariannol newidiol caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy'n rhesymol er mwyn pennu swm unrhyw fudd ariannol a gafwyd o ganlyniad i'r tramgwydd.
Hysbysiad o fwriad
2.—(1) Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod gofyniad o dan yr Atodlen hon i berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Yn achos hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio arfaethedig rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)seiliau'r hysbysiad arfaethedig;
(b)gofyniad yr hysbysiad;
(c)gwybodaeth am y canlynol—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod yr hysbysiad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
(3) Yn achos cosb ariannol newidiol arfaethedig rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol newidiol;
(b)swm y gosb;
(c)gwybodaeth am y canlynol—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau
3. Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio.
Ymrwymiadau trydydd parti
4.—(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad ynglŷn â chamau i'w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd (“ymrwymiad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymrwymiad trydydd parti o'r fath.
Hysbysiad terfynol
5.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid—
(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i'w osod o dan yr Atodlenhon.
(2) Wrth benderfynu, rhaid i'r rheoleiddiwr gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad trydydd parti y mae'n ei dderbyn.
(3) Pan fo'r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 6 neu 7.
(4) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
Cynnwys hysbysiad terfynol — cosb ariannol newidiol
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol newidiol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)y swm sydd i'w dalu;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo, y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag 28 diwrnod;
(d)hawliau i apelio; ac
(dd)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
Cynnwys hysbysiad terfynol — hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer
7. Rhaid i hysbysiad terfynol ynglŷn â hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)pa waith cydymffurfio neu adfer sy'n ofynnol a'r cyfnod y mae'n rhaid iddo gael ei gwblhau ynddo;
(c)yr hawliau i apelio; ac
(ch)canlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol
8.—(1) Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)yn achos cosb ariannol newidiol, bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(dd)unrhyw reswm tebyg arall.
Achosion troseddol
9.—(1) Os bydd—
(a)cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer yn cael ei osod ar unrhyw berson, neu
(b)ymrwymiad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb ariannol newidiol, yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer neu'r ymrwymiad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Yr achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw achos—
(a)lle mae hysbysiad adfer neu hysbysiad cydymffurfio wedi'i osod ar berson neu lle mae ymrwymiad trydydd parti wedi'i dderbyn oddi wrth berson,
(b)lle nad oes cosb ariannol newidiol wedi'i osod ar y person hwnnw, ac
(c)lle mae'r person hwnnw'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad adfer, yr hysbysiad cydymffurfio neu'r ymrwymiad trydydd parti.
(3) Caniateir i achos troseddol ynglŷn â thramgwyddau a all gael eu profi'n ddiannod y mae hysbysiad neu ymrwymiad yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hwy gael ei ddechrau ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o'r dyddiad y mae'r rheoleiddiwr yn hysbysu'r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad neu'r ymrwymiad hwnnw.
Erthygl 3
ATODLEN 3Hysbysiadau stop
Hysbysiadau stop
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno'n dangos bod hysbysiad o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Dim ond mewn achos sy'n syrthio o fewn is-baragraff (3) neu (4) y caniateir i hysbysiad stop gael ei gyflwyno.
(3) Achos sy'n syrthio o fewn yr is-baragraff hwn yw achos—
(a)lle mae'r person yn cyflawni'r gweithgaredd,
(b)lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd fel y mae'n cael ei gyflawni gan y person hwnnw yn achosi, neu'n creu risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), ac
(c)lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd fel y mae'n cael ei gyflawni gan y person hwnnw yn cynnwys neu'n debyg o gynnwys cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 gan y person hwnnw.
(4) Achos sy'n syrthio o fewn yr is-baragraff hwn yw achos lle mae'r rheoleiddiwr yn credu'n rhesymol—
(a)bod y person yn debyg o gyflawni'r gweithgaredd,
(b)y bydd y gweithgaredd fel y mae'n debyg o gael ei gyflawni gan y person hwnnw yn achosi, neu'n creu risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), ac
(c)y bydd y gweithgaredd fel y mae'n debyg o gael ei gyflawni gan y person hwnnw yn cynnwys neu'n debyg o gynnwys cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 gan y person hwnnw.
(5) Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (3)(b) a (4)(b) yw—
(a)iechyd pobl,
(b)yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion).
Cynnwys hysbysiad stop
2. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros gyflwyno'r hysbysiad stop;
(b)y camau y mae'n rhaid i'r person eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad stop;
(c)hawliau i apelio; ac
(ch)canlyniadau diffyg cydymffurfio.
Apelau
3.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)bod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(d)nad yw'r person wedi cyflawni'r tramgwydd ac na fyddai wedi'i gyflawni pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno;
(dd)na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.
Tystysgrifau cwblhau
4.—(1) Pan fo'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni, ar ôl i hysbysiad stop gael ei gyflwyno, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad, rhaid i'r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae effaith yr hysbysiad stop yn dod i ben pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif gwblhau.
(4) Rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid dyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 diwrnod o gais o'r fath.
(5) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y sail—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol;
(ch)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
Iawndal
5.—(1) Rhaid i reoleiddiwr dalu iawndal i berson am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os yw'r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i'r hysbysiad neu'r gwrthodiad ac—
(a)bod yr hysbysiad stop yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio wedyn gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i'w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(b)bod y person yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu ei bod yn afresymol cyflwyno'r hysbysiad; neu
(c)bod y person yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn gwrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys yn dyfarnu ei bod yn afresymol gwrthod.
(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarndalu iawndal neu yn erbyn penderfyniad pennu swm yr iawndal—
(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd wedi'i seilio ar ffeithiau anghywir;
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.
Tramgwyddau
6.—(1) Pan na fo person y mae hysbysiad stop wedi ei ddyroddi iddo yn cydymffurfio ag ef o fewn y terfynau amser a bennwyd yn yr hysbysiad, mae'r person yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy nag £20,000, neu i garchar am gyfnod nad yw'n fwy na deuddeng mis, neu'r ddau, neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau.
(2) Wrth gymhwyso'r paragraff hwn mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(2) gychwyn mae'r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at ddeuddeng mis i'w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.
Erthygl 3
ATODLEN 4Ymrwymiadau gorfodi
Ymrwymiadau gorfodi
1. Caiff rheoleiddiwr dderbyn ymrwymiad gorfodi oddi wrth berson mewn achos lle mae gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni tramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 a bod y tabl yn yr Atodlen honno'n dangos y caniateir derbyn ymrwymiad gorfodi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.
Cynnwys a ffurf ymrwymiad gorfodi
2.—(1) Rhaid i ymrwymiad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid pennu—
(a)camau i sicrhau na fydd y tramgwydd yn parhau neu'n ailddigwydd,
(b)camau i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo modd, yn cael ei hadfer i'r hyn a fuasai pe na bai'r tramgwydd wedi'i gyflawni,
(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd, neu
(ch)lle nad oes modd adfer y niwed sy'n codi o'r tramgwydd, camau a fydd yn sicrhau budd neu welliant cyfatebol i'r amgylchedd.
(2) Rhaid iddo bennu'r cyfnod y mae'n rhaid cymryd y camau ynddo.
(3) Rhaid iddo gynnwys—
(a)datganiad bod yr ymrwymiad yn cael ei wneud yn unol â'r Atodlen hon;
(b)telerau'r ymrwymiad;
(c)sut a pha bryd y bernir bod person wedi cyflawni'r ymrwymiad.
(4) Caniateir i'r ymrwymiad gorfodi gael ei amrywio, neu i'r cyfnod y mae'n rhaid cwblhau'r camau ynddo gael ei ymestyn, os bydd y ddau barti'n cytuno mewn ysgrifen.
Derbyn ymrwymiad gorfodi
3. Os oes rheoleiddiwr wedi derbyn ymrwymiad gorfodi yna, oni bai bod y person y derbyniwyd yr ymrwymiad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad neu ag unrhyw ran ohono—
(a)ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r ymrwymiad yn ymwneud â hi neu ef;
(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod ar y person hwnnw unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad adfer mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
Darpariaethau cyffredinol ynghylch ymrwymiadau gorfodi
4.—(1) Rhaid i reoleiddiwr sefydlu a chyhoeddi'r weithdrefn ar gyfer gwneud ymrwymiad gorfodi.
(2) Rhaid i'r rheoleiddiwr ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol cyn gwneud hynny.
(3) Wrth dderbyn ymrwymiad caiff y rheoleiddiwr ei gyhoeddi ym mha fodd bynnag y mae'n barnu ei fod yn addas.
Cyflawni ymrwymiad gorfodi
5.—(1) Rhaid i reoleiddiwr sydd wedi'i fodloni y cydymffurfiwyd ag ymrwymiad gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw.
(2) Caiff rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i'r person sydd wedi rhoi'r ymrwymiad ddarparu digon o wybodaeth i benderfynu y cydymffurfiwyd â'r ymrwymiad.
(3) Caiff y person a roddodd yr ymrwymiad wneud cais am dystysgrif o'r fath ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid dyroddi tystysgrif o'r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad i'r ceisydd, o fewn 14 diwrnod o gais o'r fath.
(5) Caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y sail bod y penderfyniad—
(a)wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)yn annheg neu'n afresymol;
(ch)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol
6.—(1) Bernir bod person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymrwymiad gorfodi heb gydymffurfio ag ef.
(2) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiddymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 5 os cafodd ei dyroddi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol.
Diffyg cydymffurfio ag ymrwymiad gorfodi
7.—(1) Os na chydymffurfir ag ymrwymiad gorfodi caiff y rheoleiddiwr naill ai—
(a)cyflwyno hysbysiad cosb ariannol newidiol, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer, neu
(b)dwyn achos troseddol
mewn perthynas â'r tramgwydd perthnasol.
(2) Os oes person wedi cydymffurfio'n rhannol ond nid yn llawn ag ymrwymiad, rhaid i'r cydymffurfio rhannol hwnnw gael ei gymryd i ystyriaeth wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn arall ar y person.
(3) Caniateir i achos troseddol ar gyfer tramgwyddau a all gael eu profi'n ddiannod ac y mae ymrwymiad gorfodi'n ymwneud â hwy gael ei ddechrau ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o'r dyddiad y mae'r rheoleiddiwr yn hysbysu'r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â'r ymrwymiad hwnnw.
Erthygl 4
ATODLEN 5Tramgwyddau
Yn y tabl canlynol—
cosb ariannol benodedig yw “CAB”;
cosb ariannol newidiol yw “CAN”;
hysbysiad cydymffurfio yw “HC”;
hysbysiad adfer yw “HA”;
hysbysiad stop yw “HS”;
ymrwymiad gorfodi yw “YG”.
Y ddarpariaeth sy'n creu'r tramgwydd CAB CAN HC HA HS YG Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975(3) adran 2(1) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 2(2) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 2(4) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 4(1) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 5(4) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 9(2) Nage Ie Nage Ie Nage Ie adran 12(1) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 12(3) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 13(2) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 14(8) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 15(2) Nage Ie Nage Ie Ie Ie adran 18(1) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 27 Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 31(2) Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf Eogiaid 1986(4) adran 32 Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(5) adran 33(6) Nage Nage Nage Nage Ie Nage adran 71(3) Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf Adnoddau Dŵr 1991(6) adran 24(4)(a) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 24(4)(b) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 25(2)(a) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 25(2)(b) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 25C Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 80(1) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 80(2) Ie Ie Ie Ie Ie Ie adran 161D(1) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 199(4) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 201(3) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 202(4) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 206(1) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 206(3) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 206(3A) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 206(4) Nage Ie Nage Nage Nage Nage Atodlen 20, paragraff 7 Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(7) adran 120(9) Ie Ie Ie Ie Nage Ie adran 130(7) Ie Ie Ie Ie Nage Ie adran 133(5) Nage Ie Nage Ie Nage Nage adran 135A(2)(a) Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf Traenio Tir 1991(8) adran 53(2) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 64(6) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 69(4) Nage Ie Nage Nage Nage Nage DeddfyrAmgylchedd 1995(9) adran 110(1) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 110(2)(a) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 110(2)(b) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 110(2)(c) Nage Ie Nage Nage Nage Nage adran 110(3) Nage Ie Nage Nage Nage Nage Deddf Dŵr2003(10) adran 4(4) Nage Ie Nage Nage Nage Nage
Nodyn Esboniadol
(Nid y w'r nody n hwn y n rhan o'r Gorchy my n)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae'n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd, fel rheoleiddiwr, osod sancsiynau sifil mewn perthynas â'r tramgwyddau a bennir yn Atodlen 5 i'r Gorchymyn.
Cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer a hysbysiadau stop, ac ymrwymiadau gorfodi yw'r sancsiynau sifil (erthygl 3).
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chosbau ariannol penodedig (Atodlen 1), cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer ac ymrwymiadau trydydd parti (Atodlen 2), hysbysiadau stop (Atodlen 3) ac ymrwymiadau gorfodi (Atodlen 4).
Mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio yn gosod cosb os na chydymffurfir â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymrwymiad trydydd parti (erthygl 7).
O dan erthygl 8 caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad adennill cost gorfodi mewn perthynas â chostau ymchwilio a gweinyddu y bydd y rheoleiddiwr yn eu tynnu, a chostau'r rheoleiddiwr wrth sicrhau cyngor arbenigol.
Mae erthygl 10 yn nodi'r mecanwaith apelio. I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y cyflwynir apelau.
Mae erthyglau 11 i 13 yn darparu bod rhaid i ganllawiau gael eu paratoi ynglŷn â defnyddio sancsiynau sifil a bod rhaid ymgynghori ynghylch y canllawiau hynny, ac mae erthygl 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am y camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr.
Paratowyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2008 p.13; gweler adran 71(1) ar gyfer y diffiniad o “prescribed” ac adran 74 ar gyfer y diffiniad o “Welsh ministerial matter”.
1975 p. 51; diwygiwyd adran 2(1) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), adran 216(1), (2)(a) a (b); diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, adran 216(1), (3)(a) a (b); diwygiwyd adran 4(1) gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adran 321, Atodlen 22, Rhan 5 (B); amnewidiwyd adran 14(8) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), adran 105, Atodlen 15, paragraff 13; diwygiwyd adran 15(2) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 105, Atodlen 15, paragraff 14(2); diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adran 233(1), Atodlen 16, paragraffau 1 ac 11.
1986 p. 62; diwygiwyd adran 32 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 adrannau 229 a 321, Atodlen 22, Rhan 5(B).
1990 p. 43; diwygiwyd adran 33(6) gan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 (O.S. 2007/3538), rheoliadau 73, 74(2), Atodlen 21, Rhan 1, paragraffau 2, 4(1), (5) ac Atodlen 23; diwygiwyd adran 71(3) gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16), adran 46(2)(b) a chan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adrannau 112, 120, Atodlen 19, paragraff 4(2) ac Atodlen 24.
1991 p. 57; diwygiwyd adran 25(2)(b) gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) adrannau 2(1), (3), 101(2) ac Atodlen 9, Rhan 1; mewnosodwyd adran 25C gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 30; diwygiwyd adran 80(1) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 141(a); diwygiwyd adran 80(2) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraffau 141(b) ac (c); mewnosodwyd adran 161D gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 162; diwygiwyd adran 199(4) gan Ddeddf Dŵr 2003 adrannau 8(1) a 5(b); amnewidiwyd adran 201(3) gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 70; diwygiwyd adran 202(4) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraffau 128 a 172(1); amnewidiwyd adran 206(1) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 112, Atodlen 19, paragraff 5(2) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 adran 101(1), Atodlen 7, Rhan 1, paragraffau 1 ac 11; mewnosodwyd adran 206(3A) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 112, Atodlen 19, paragraff 5(4); diwygiwyd Atodlen 20, paragraff 7 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 188.
1991 p. 56; amnewidiwyd adran 120(9) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 105(4); amnewidiwyd adran 130(7) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 108(3); amnewidiwyd adran 133(5) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 111; mewnosodwyd adran 135A(2)(a) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 adran 120, Atodlen 22, paragraff 113.