Search Legislation

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid y w'r nody n hwn y n rhan o'r Gorchy my n)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae'n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd, fel rheoleiddiwr, osod sancsiynau sifil mewn perthynas â'r tramgwyddau a bennir yn Atodlen 5 i'r Gorchymyn.

Cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer a hysbysiadau stop, ac ymrwymiadau gorfodi yw'r sancsiynau sifil (erthygl 3).

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chosbau ariannol penodedig (Atodlen 1), cosbau ariannol newidiol, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer ac ymrwymiadau trydydd parti (Atodlen 2), hysbysiadau stop (Atodlen 3) ac ymrwymiadau gorfodi (Atodlen 4).

Mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio yn gosod cosb os na chydymffurfir â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymrwymiad trydydd parti (erthygl 7).

O dan erthygl 8 caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad adennill cost gorfodi mewn perthynas â chostau ymchwilio a gweinyddu y bydd y rheoleiddiwr yn eu tynnu, a chostau'r rheoleiddiwr wrth sicrhau cyngor arbenigol.

Mae erthygl 10 yn nodi'r mecanwaith apelio. I Dribiwnlys yr Haen Gyntaf y cyflwynir apelau.

Mae erthyglau 11 i 13 yn darparu bod rhaid i ganllawiau gael eu paratoi ynglŷn â defnyddio sancsiynau sifil a bod rhaid ymgynghori ynghylch y canllawiau hynny, ac mae erthygl 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am y camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr.

Paratowyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help