xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1954 (Cy.187)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010

Gwnaed

2 Awst 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Awst 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 434(1), (3) a (4), 551(1) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Dirymu

3.  Dirymir Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(3).

Y cofrestrau sydd i'w cadw

4.  Rhaid i berchennog pob ysgol beri bod y canlynol yn cael eu cadw—

(a)cofrestr dderbyn; a

(b)ac eithrio yn achos ysgol lle y mae pob disgybl yn ddisgybl preswyl, cofrestr bresenoldeb.

Cynnwys y gofrestr dderbyn

5.—(1Rhaid i'r gofrestr dderbyn ar gyfer pob ysgol gynnwys mynegai, yn nhrefn yr wyddor, o'r holl ddisgyblion sydd yn yr ysgol, a chynnwys yn ogystal y manylion canlynol mewn perthynas â phob un o'r cyfryw ddisgyblion—

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)enw a chyfeiriad pob person y mae'n hysbys i berchennog yr ysgol ei fod yn rhiant i'r disgybl, a chyferbyn â'r cofnod yn y gofrestr o fanylion unrhyw riant y mae'r disgybl yn preswylio gydag ef fel rheol, dynodiad o'r ffaith honno a chofnod o un rhif teleffon o leiaf, y gellir cysylltu â'r rhiant drwyddo mewn argyfwng;

(ch)dydd, mis a blwyddyn ei eni;

(d)dydd, mis a blwyddyn ei dderbyn neu'i aildderbyn i'r ysgol; ac

(dd)enw a chyfeiriad yr ysgol a fynychwyd ddiwethaf, os oes un.

(2Yn achos pob ysgol sy'n cynnwys disgyblion preswyl, rhaid ychwanegu at y manylion a bennir ym mharagraff (1) ddatganiad pa un ai disgybl preswyl ynteu disgybl dydd yw pob un o'r disgyblion sydd mewn oedran ysgol gorfodol, a rhaid diwygio'r datganiad hwnnw yn briodol pan fo disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn dod, neu'n peidio â bod, yn ddisgybl preswyl yn yr ysgol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae disgybl yn ddisgybl yn yr ysgol o ddechrau'r diwrnod cyntaf pan gytuna, neu pan hysbysir, yr ysgol y bydd y disgybl yn mynychu'r ysgol.

Cynnwys y gofrestr bresenoldeb

6.—(1Rhaid cofnodi'r manylion canlynol yn y gofrestr bresenoldeb ar ddechrau pob sesiwn foreol ac unwaith yn ystod pob sesiwn brynhawnol—

(a)yn achos pob disgybl y cofnodwyd ei enw yn y gofrestr dderbyn ac nas dilëwyd ohoni, pa un a yw'r disgybl—

(i)yn bresennol;

(ii)yn absennol;

(iii)yn mynychu gweithgaredd addysgol cymeradwy o fewn paragraff (4); neu

(iv)yn analluog i fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol o fewn paragraff (5);

(b)yn achos unrhyw ddisgybl o'r fath sydd mewn oedran ysgol gorfodol ac yn absennol, datganiad pa un a yw'r absenoldeb wedi ei awdurdodi yn unol â pharagraff (2) ai peidio;

(c)yn achos unrhyw ddisgybl o'r fath sydd mewn oedran ysgol gorfodol ac yn mynychu gweithgaredd addysgol cymeradwy, natur y gweithgaredd hwnnw; ac

(ch)yn achos disgybl sy'n analluog i fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol, natur yr amgylchiadau hynny,

ond nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â disgybl sy'n ddisgybl preswyl.

(2Yn achos disgybl nad yw'n ddisgybl preswyl, mae absenoldeb i'w drin fel pe bai wedi ei awdurdodi at ddibenion y rheoliad hwn—

(a)os rhoddwyd caniatâd i fod yn absennol i'r disgybl yn unol â rheoliad 7;

(b)os yw'r disgybl yn analluog i fod yn bresennol—

(i)oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy;

(ii)ar ddiwrnod a neilltuir ar gyfer cadwraeth grefyddol yn unig, gan y corff crefyddol y mae rhiant y disgybl yn perthyn iddo; neu

(iii)oherwydd bod yr awdurdod lleol wedi methu â gwneud trefniadau cludiant addas ar gyfer y disgybl y mae dyletswydd ar yr awdurdod i'w darparu o dan adran 3 neu 4 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(4).

(3Os nad oes modd, ar adeg marcio'r gofrestr, canfod y rheswm am absenoldeb disgybl, rhaid cofnodi'r absenoldeb hwnnw fel un diawdurdod, a rhaid gwneud unrhyw gywiriad diweddarach i'r gofrestr, er mwyn cofnodi'r absenoldeb hwnnw fel un a awdurdodwyd, yn unol â rheoliad 13, a hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i'r person sydd â chyfrifoldeb am lenwi'r gofrestr ganfod y rheswm am yr absenoldeb.

(4Gweithgaredd addysgol cymeradwy yw—

(a)gweithgaredd sy'n digwydd y tu allan i fangre'r ysgol, ac sydd—

(i)wedi ei gymeradwyo gan berson a awdurdodwyd ar gyfer hynny gan berchennog yr ysgol;

(ii)o natur addysgol, gan gynnwys profiad gwaith o dan adran 560 o Ddeddf Addysg 1996(5) a gweithgaredd chwaraeon; a

(iii)yn cael ei oruchwylio gan berson a awdurdodwyd ar gyfer hynny gan berchennog neu bennaeth yr ysgol;

(b)presenoldeb mewn ysgol arall lle y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig; neu

(c)presenoldeb ar gwrs astudio o fewn y cwricwlwm lleol mewn man ac eithrio'r ysgol.

(5Yr amgylchiadau eithriadol pan ganiateir marcio disgybl yn analluog i fod yn bresennol yw—

(a)pan fo safle'r ysgol wedi ei gau, neu ran o'r safle wedi ei chau, oherwydd achos anocheladwy ar adeg pan ddylai disgyblion fod yn bresennol;

(b)yn achos disgybl y mae'r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i wneud trefniadau cludiant addas ar ei gyfer y mae ganddo ddyletswydd i'w darparu o dan adran 3 neu 4 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, pan na fo'r cludiant hwnnw ar gael; neu

(c)pan fo argyfwng lleol neu genedlaethol wedi arwain at amharu'n helaeth ar deithio a bod hynny wedi atal y disgybl rhag mynychu'r ysgol.

(6Ni cheir dileu enw disgybl o'r gofrestr bresenoldeb ac eithrio pan fo enw'r disgybl hwnnw wedi ei ddileu o'r gofrestr dderbyn ar gyfer yr ysgol honno yn unol â rheoliad 8.

Caniatâd i fod yn absennol

7.—(1Ni chaiff neb roi caniatâd i fod yn absennol ac eithrio person a awdurdodwyd ar gyfer hynny gan berchennog yr ysgol.

(2Rhaid peidio â rhoi caniatâd i fod yn absennol er mwyn galluogi disgybl i ymgymryd â chyflogaeth (pa un ai am dâl ai peidio) yn ystod oriau ysgol, ac eithrio—

(a)cyflogaeth at y diben o gymryd rhan mewn perfformiad yn yr ystyr a roddir i “performance” yn adran 37 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963(6) o dan awdurdod trwydded a roddir gan yr awdurdod lleol o dan yr adran honno; neu

(b)cyflogaeth dramor at ddiben a grybwyllir yn adran 25 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(7) pan fo trwydded wedi ei rhoi o dan yr adran honno gan ynad heddwch.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan wneir cais gan riant y mae'r disgybl fel rheol yn preswylio gydag ef, ceir rhoi caniatâd i fod yn absennol o'r ysgol er mwyn galluogi'r disgybl i fynd i ffwrdd ar wyliau.

(4Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, rhaid peidio â rhoi caniatâd i fod yn absennol i ddisgybl yn unol â pharagraff (3) am fwy na deng niwrnod ysgol mewn unrhyw un flwyddyn ysgol.

(5Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig i ysgol a gynhelir ac ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol.

Dileadau o'r gofrestr dderbyn

8.—(1Rhagnodir y canlynol fel seiliau sy'n peri bod rhaid dileu o'r gofrestr dderbyn enw disgybl sydd mewn oedran ysgol gorfodol—

(a)pan fo'r disgybl wedi ei gofrestru yn yr ysgol yn unol â gofynion gorchymyn mynychu'r ysgol, a'r awdurdod lleol naill ai wedi pennu ysgol arall i gymryd lle'r ysgol a enwyd yn y gorchymyn neu wedi dirymu'r gorchymyn ar y sail bod trefniadau wedi eu gwneud i'r plentyn gael addysg lawnamser effeithlon ac addas ar gyfer ei oedran, ei allu a'i ddoniau, rywfodd ac eithrio mewn ysgol;

(b)ac eithrio pan fo'r perchennog wedi cytuno y dylid cofrestru'r disgybl mewn mwy nag un ysgol, mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a) neu reoliad 9, pan fo'r disgybl wedi ei gofrestru fel disgybl mewn ysgol arall;

(c)pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn mwy nag un ysgol, ac mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (g) neu (i) ac eithrio fel a ddarperir yn rheoliad 9, a'r disgybl wedi peidio â mynychu'r ysgol, a pherchennog unrhyw ysgol arall y cofrestrwyd y disgybl ynddi wedi cydsynio i'r dilead;

(ch)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), pan fo'r disgybl wedi peidio â mynychu'r ysgol a'r perchennog wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y rhiant bod y disgybl yn cael addysg rywfodd ac eithrio mewn ysgol;

(d)ac eithrio yn achos disgybl preswyl, pan fo'r disgybl wedi peidio â mynychu'r ysgol ac nad yw bellach yn preswylio fel arfer mewn man sydd o fewn pellter rhesymol i'r ysgol lle y mae'r disgybl wedi ei gofrestru;

(dd)yn achos disgybl y rhoddwyd caniatâd i fod yn absennol am fwy na deng niwrnod ysgol iddo at y diben o fynd i ffwrdd ar wyliau yn unol â rheoliad 7(3)—

(i)pan na fu'r disgybl yn bresennol yn yr ysgol o fewn y deng niwrnod ysgol yn union ar ôl diwedd y cyfnod y rhoddwyd y caniatâd i fod yn absennol ar ei gyfer;

(ii)nad yw'r perchennog wedi ei fodloni bod y disgybl yn analluog i fynychu'r ysgol oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy; a

(iii)y perchennog yn ogystal â'r awdurdod lleol, ar ôl gwneud ymholiad rhesymol, wedi methu â darganfod lle y mae'r disgybl;

(e)pan fo'r swyddog meddygol ysgolion wedi ardystio bod y disgybl yn annhebygol o fod mewn cyflwr iechyd priodol i fynychu'r ysgol cyn peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol, ac nad yw'r disgybl na'i riant wedi mynegi wrth yr ysgol bod bwriad i'r disgybl barhau i fynychu'r ysgol ar ôl peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol;

(f)pan fo'r disgybl wedi bod yn absennol yn ddi-dor o'r ysgol am gyfnod o ddim llai nag ugain diwrnod ysgol, ac—

(i)nad oedd ei absenoldeb, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi ei awdurdodi gan y perchennog yn unol â rheoliad 6(2);

(ii)nad yw'r perchennog wedi ei fodloni bod y disgybl yn analluog i fynychu'r ysgol oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy; a

(iii)bod perchennog yr ysgol yn ogystal â'r awdurdod lleol, ar ôl gwneud ymholiad rhesymol, wedi methu â darganfod lle y mae'r disgybl;

(ff)pan fo'r disgybl wedi cael ei gadw'n gaeth yn unol â gorchymyn terfynol a wnaed gan lys, neu orchymyn adalw gan lys neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, a bod y gorchymyn hwnnw am gyfnod nad yw'n llai na 4 mis, ac nad oes gan y perchennog sail resymol dros gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i'r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(g)pan fu farw'r disgybl;

(ng)os bydd y disgybl yn peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol cyn bo'r ysgol yn ymgynnull nesaf a bod y person perthnasol wedi mynegi bod y disgybl yn bwriadu peidio â mynychu'r ysgol;

(h)yn achos disgybl mewn ysgol ac eithrio ysgol a gynhelir, pan fo'r disgybl wedi peidio â bod yn ddisgybl o'r ysgol;

(i)yn achos disgybl a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir, pan fo'r disgybl wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol; neu

(j)pan fo'r disgybl wedi ei dderbyn i'r ysgol i gael addysg feithrin, ac nad yw'r disgybl, ar ôl cwblhau addysg o'r fath, wedi trosglwyddo i ddosbarth derbyn, neu i ddosbarth uwch, yn yr ysgol.

(2Mewn achos nad yw'n dod o fewn paragraff (1)(a), (g) neu (i) neu reoliad 9, pan fo plentyn, o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, wedi dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig, ni cheir dileu enw'r plentyn hwnnw o gofrestr dderbyn yr ysgol honno heb fod yr awdurdod hwnnw'n cydsynio, neu, os yw'r awdurdod hwnnw'n gwrthod cydsynio, heb gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3Rhagnodir y canlynol fel seiliau ar gyfer dileu enw disgybl nad yw mewn oedran ysgol gorfodol o'r gofrestr dderbyn—

(a)pan fo'r disgybl wedi peidio â mynychu'r ysgol, neu yn achos disgybl preswyl, pan fo'r disgybl wedi peidio â bod yn ddisgybl o'r ysgol;

(b)pan fo'r disgybl wedi bod yn absennol yn ddi-dor o'r ysgol am gyfnod o ddim llai nag ugain diwrnod ysgol, ac—

(i)nad oedd y perchennog ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi cydsynio i'r absenoldeb;

(ii)nad yw'r perchennog wedi ei fodloni bod y disgybl yn analluog i fynychu'r ysgol oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy; a

(iii)bod perchennog yr ysgol, ar ôl gwneud ymholiad rhesymol, wedi methu â darganfod lle y mae'r disgybl;

(c)pan fu farw'r disgybl;

(ch)pan fo'r disgybl wedi ei dderbyn i'r ysgol i gael addysg feithrin, ac nad yw'r disgybl, ar ôl cwblhau addysg o'r fath, wedi trosglwyddo i ddosbarth derbyn, neu i ddosbarth uwch, yn yr ysgol; neu

(d)yn achos disgybl a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir, pan fo'r disgybl wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae disgybl i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio'n gyson ac fel rheol, ar wahân i absenoldebau dros dro neu achlysurol;

(b)ystyr “dosbarth derbyn” yw dosbarth lle y darperir addysg sy'n addas i anghenion disgyblion pum mlwydd oed ac unrhyw ddisgyblion dan neu dros yr oedran hwnnw, y bo'n gyfleus eu haddysgu ar y cyd â disgyblion o'r oedran hwnnw;

(c)mae plant i'w hystyried fel pe baent wedi eu derbyn i ysgol i gael addysg feithrin os rhoddir hwy, ar yr adeg y'u derbynnir, mewn dosbarth meithrin; ac

(ch)nid yw gwaharddiad parhaol ar ddisgybl o ysgol a gynhelir yn cael effaith hyd nes y bo'r corff llywodraethu wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan reoliadau a wneir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002(8), ac—

(i)y person perthnasol wedi datgan mewn ysgrifen nad yw'n bwriadu dwyn apêl o dan y rheoliadau hynny;

(ii)yr amser ar gyfer dwyn apêl wedi dod i ben, heb i unrhyw apêl gael ei dwyn o fewn yr amser hwnnw; neu

(iii)y penderfynwyd neu y rhoddwyd gorau i apêl a ddygwyd o fewn y cyfnod hwnnw.

Cofrestru deuol

9.—(1Pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn uned cyfeirio disgyblion ac mewn ysgol nad yw'n uned cyfeirio disgyblion, rhaid peidio â dileu enw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 8(1)(b), o gofrestr dderbyn yr uned cyfeirio disgyblion nac o gofrestr dderbyn yr ysgol, oni cheir cydsyniad yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr uned cyfeirio disgyblion yn ogystal â chydsyniad perchennog yr ysgol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)pan fo disgybl wedi ei gofrestru fel disgybl mewn ysgol arbennig (gan gynnwys ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty) ac mewn ysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion), a

(b)pan na chynhelir, ar gyfer y disgybl hwnnw, ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n pennu enw'r ysgol arbennig yn unig,

rhaid peidio â dileu enw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 8(1)(b) oddi ar gofrestr dderbyn y naill ysgol na'r llall heb gydsyniad perchennog y ddwy ysgol.

(3Pan fo disgybl wedi ei gofrestru fel disgybl mewn ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty ac mewn ysgol arbennig arall, rhaid peidio â dileu enw'r disgybl hwnnw o gofrestr dderbyn y naill ysgol na'r llall yn unol â rheoliad 8(1)(b) heb gydsyniad perchennog y ddwy ysgol.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i ddisgybl—

(a)nad oes ganddo breswylfa barhaol oherwydd bod ei riant yn ymgymryd â masnach neu fusnes o natur sy'n ei gwneud yn ofynnol ei fod yn teithio o le i le; a

(b)sydd, ar unrhyw adeg, wedi ei gofrestru fel disgybl mewn dwy neu ragor o ysgolion.

(5Rhaid peidio â dileu enw disgybl y mae paragraff (4) yn gymwys iddo o gofrestr dderbyn ysgol yn unol â rheoliad 8(1)(b) tra bo'r disgybl yn mynychu'r ysgol honno.

(6Rhaid peidio â dileu, yn unol â rheoliad 8(1)(b) neu (c), enw disgybl y mae paragraff (4) yn gymwys iddo, o gofrestr dderbyn yr ysgol a fynychir gan y disgybl hwnnw fel arfer.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), at ddibenion paragraff (6) mae ysgol yn ysgol a fynychir fel arfer gan y disgybl os honno, yn ystod y 18 mis yn union cyn hynny, oedd yr ysgol a fynychwyd gan y disgybl yn ystod y cyfnodau pan nad oedd ei riant yn teithio mewn cysylltiad â masnach neu fusnes.

(8Mewn unrhyw achos pan fo dwy neu ragor o ysgolion yn bodloni'r diffiniad ym mharagraff (7) o ysgol a fynychir fel arfer, mae paragraff (6) yn gymwys yn unig mewn perthynas â'r ysgol a oedd yn bodloni'r diffiniad ddiwethaf.

(9Nid yw'r gofynion i gael cydsyniad ym mharagraffau (1) i (3) yn gymwys mewn achosion sy'n dod o fewn rheoliad 8(1)(g) ac (i).

Archwilio cofrestrau

10.  Rhaid i gofrestr dderbyn a chofrestr bresenoldeb pob ysgol fod ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau ysgol gan—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu unrhyw un o Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant; a

(b)yn achos ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, unrhyw swyddog o'r awdurdod lleol a awdurdodwyd at y diben hwnnw.

Detholiadau o'r cofrestrau

11.  Rhaid caniatáu i bersonau, a awdurdodir gan reoliad 10 i archwilio cofrestr dderbyn a chofrestr bresenoldeb unrhyw ysgol, wneud detholiadau o'r cofrestrau hynny at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg.

Datganiadau

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berchennog pob ysgol wneud datganiad i'r awdurdod lleol, fesul pa bynnag ysbaid a gytunir rhwng y perchennog a'r awdurdod lleol, neu a benderfynir gan Weinidogion Cymru yn niffyg cytundeb, o enw a chyfeiriad pob disgybl cofrestredig sydd mewn oedran ysgol gorfodol ac—

(a)yn peidio â mynychu'r ysgol yn rheolaidd; neu

(b)a fu'n absennol o'r ysgol, pan na fo'r absenoldeb wedi ei drin fel absenoldeb awdurdodedig yn unol â rheoliad 6(2), am gyfnod di-dor o ddim llai na deng niwrnod ysgol, a chan nodi achos yr absenoldeb os yw'n hysbys i'r perchennog.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw absenoldeb o'r ysgol—

(a)oherwydd salwch y disgybl, y darparwyd tystysgrif feddygol mewn perthynas ag ef i bennaeth yr ysgol;

(b)o ganlyniad i ganiatâd i fod yn absennol a roddwyd yn unol â rheoliad 7;

(c)yn achos disgybl sydd wedi ei gofrestru mewn mwy nag un ysgol, oherwydd bod y disgybl yn mynychu ysgol arall y mae'n ddisgybl cofrestredig ynddi; ac

(ch)yn ystod unrhyw gyfnod pan oedd y disgybl yn mynychu gweithgaredd addysgol cymeradwy o fewn ystyr rheoliad 6(4).

(3Pan fo enw disgybl wedi ei ddileu o'r gofrestr dderbyn yn unol â rheoliad 8(1)(c), (ch), (e), (ff) neu (i), rhaid i'r perchennog wneud datganiad i'r awdurdod lleol, gan roi enw llawn a chyfeiriad y disgybl hwnnw, o fewn y cyfnod o ddeng niwrnod ysgol sy'n dilyn yn union ar ôl y dyddiad y dilëwyd enw'r disgybl felly.

Y dull o wneud cofnodion

13.  Rhaid ysgrifennu pob cofnod a wneir mewn cofrestr dderbyn neu gofrestr bresenoldeb mewn inc, a rhaid gwneud pob cywiriad mewn modd a fydd yn caniatáu dirnad yn eglur y cofnod gwreiddiol a'r cywiriad.

Dal gafael ar gofrestrau

14.  Rhaid i bob cofnod a wneir mewn cofrestr dderbyn neu gofrestr bresenoldeb gael ei gadw'n ddiogel am gyfnod o dair blynedd ar ôl y dyddiad pan wneir y cofnod.

Defnyddio cyfrifiaduron

15.—(1Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w ddehongli fel pe bai'n rhwystro defnyddio cyfrifiadur i gadw cofrestr dderbyn neu gofrestr bresenoldeb, ond os cedwir cofrestr o'r fath yn y modd hwnnw, bydd paragraffau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, at y diben o addasu gofynion y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw gofynion rheoliad 4 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni wneir copi ychwanegol wrth gefn o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb, o leiaf unwaith bob mis, ar ffurf copi electronig, microfiche neu brintiedig.

(3Nid yw gofynion rheoliadau 10 ac 11 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni chaniateir i'r personau a awdurdodir i archwilio a gwneud detholiadau o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb archwilio a gwneud detholiadau o'r cofrestrau hynny a gedwir drwy ddefnyddio cyfrifiadur, yn ogystal â'r copïau ychwanegol wrth gefn a wneir yn unol â pharagraff (2).

(4Nid yw gofynion rheoliad 13 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni bai, pan wneir unrhyw gywiriad i gofnod gwreiddiol yn y cofrestrau, bod unrhyw gofrestr a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur ac unrhyw brintiad o unrhyw gofrestr o'r fath a wneir ar ôl y cywiriad, yn gwahaniaethu'n eglur rhwng y cofnod gwreiddiol a'r cywiriad.

(5Nid yw gofynion rheoliad 14 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni bai—

(a)bod pob copi ychwanegol wrth gefn o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac sy'n ymwneud â blwyddyn ysgol benodol yn cael ei gadw am y flwyddyn honno ac am gyfnod o dair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol honno; a

(b)bod pob printiad o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb sy'n ymwneud â blwyddyn ysgol benodol yn cael ei gadw mewn un gyfrol am y flwyddyn honno, ac y cedwir y gyfrol honno am gyfnod o dair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol honno.

(6Ystyrir, at ddibenion rheoliad 13, bod printiad o gofrestr a baratowyd gan ddefnyddio cyfrifiadur wedi ei wneud mewn inc.

(7Nid yw darpariaethau'r rheoliad hwn yn rhagfarnu gofynion Deddf Diogelu Data 1998(9).

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

2 Awst 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995. Gwneir newidiadau o sylwedd fel a ganlyn.

Rhaid cynnwys enw disgybl yn y gofrestr dderbyn o ddechrau'r diwrnod cyntaf pan yw'r ysgol yn cytuno, neu pan hysbysir yr ysgol, y bydd y disgybl yn mynychu'r ysgol honno (rheoliad 5(3)).

Caniateir marcio disgybl yn y gofrestr bresenoldeb fel un sy'n analluog i fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol pan fo safle'r ysgol wedi ei gau, neu ran ohono wedi ei chau, neu pan nad yw'r cludiant ar gael, a ddarperir fel arfer i'r disgybl hwnnw gan yr ysgol neu gan yr awdurdod lleol (rheoliad 6(1)).

Pan fo disgybl yn mynychu ysgol arall lle y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig, rhaid ei farcio yn y gofrestr bresenoldeb fel un sy'n mynychu gweithgaredd addysgol cymeradwy (rheoliad 6(4)).

Pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn mwy nag un ysgol, ni cheir dileu ei enw o gofrestr dderbyn ysgol y peidiodd â'i mynychu oni fydd perchennog unrhyw ysgol arall lle y mae'r disgybl wedi ei gofrestru yn cydsynio (ac eithrio pan fydd farw disgybl, neu pan waherddir disgybl yn barhaol, neu pan nad oes gan ddisgybl breswylfa barhaol) (rheoliad 8(1)(c) a 9).

Cyn y ceir dileu enw disgybl o'r gofrestr dderbyn ar y sail na ddychwelodd ar ôl cael caniatâd i fod yn absennol am fwy na deng niwrnod, rhaid i berchennog yr ysgol yn ogystal â'r awdurdod lleol, ar ôl gwneud ymholiad rhesymol, fod wedi methu â chanfod lle y mae'r disgybl hwnnw (rheoliad 8(1)(dd)).

Mae'r cyfnod o absenoldeb diawdurdod di-dor disgybl sy'n sail dros ganiatáu, ar ôl hynny, ddileu enw'r disgybl o'r gofrestr dderbyn, wedi ei newid i ugain diwrnod ysgol, ac yn ychwanegol mae'n rhaid nad oes gan y perchennog sail resymol dros gredu bod y disgybl yn analluog i fynychu'r ysgol oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy arall (rheoliad 8(1)(f)).

Yn achos disgybl a gedwir yn gaeth yn unol â gorchymyn terfynol llys neu orchymyn adalw, ni chaniateir bellach ddileu ei enw o'r gofrestr dderbyn ac eithrio pan yw'r gorchymyn i barhau am gyfnod o bedwar mis o leiaf, ac nad oes gan y perchennog sail resymol dros gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i'r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw (rheoliad 8(1)(ff)).

Mae'r gofyniad i wneud datganiad i'r awdurdod lleol pan ddilëir enw disgybl ar seiliau penodol yn cael ei estyn. Mae'r gofyniad hwnnw bellach yn gymwys hefyd i ddileadau o dan reoliad 8(1)(c), (ch), (e), (ff) ac (i) (rheoliad 12(3)).

Os cedwir cofrestr ar gyfrifiadur, rhaid creu copi wrth gefn o'r gofrestr honno, o leiaf unwaith y mis, ar ffurf copi electronig, microfiche neu brintiedig (rheoliad 15(2)).

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 434, 551 a 569, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Diwygiwyd adran 434 gan baragraff 111(a) a (b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 551 gan baragraff 166(a) a (b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, ond nid yw mewn grym adeg gwneud y Rheoliadau hyn. Rhaid i'r cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed gael eu llunio'n unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Mewnosodwyd adran 33A gan adran 22 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(5)

1996 p.56. Amnewidiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 560 gan adran 112(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diwygiwyd is-adran (3) o adran 560 ymhellach gan adran 112(3) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno.

(6)

1963 p.37; diwygiwyd gan O.S. 1998/276, paragraff 32 o Atodlen 6 i Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17), paragraff 6 o Atodlen 20 i Ddeddf Darlledu 1990 (p.42) a pharagraff 10 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

(7)

1933 p.12; diwygiwyd gan O.S. 1998/276, paragraff 3 o Atodlen 13 i Ddeddf Plant 1989 (p.41), paragraff 10 o Ran 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38), paragraff 7 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 a chan baragraff 73 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 2003 (p.39).

(8)

2002 p.32. Y rheoliadau perthnasol sydd mewn grym ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn yw O.S. 2003/3227 (Cy.308), O.S. 2003/3246 (Cy.321) ac O.S. 2004/1805 (Cy.193).