Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995. Gwneir newidiadau o sylwedd fel a ganlyn.

Rhaid cynnwys enw disgybl yn y gofrestr dderbyn o ddechrau'r diwrnod cyntaf pan yw'r ysgol yn cytuno, neu pan hysbysir yr ysgol, y bydd y disgybl yn mynychu'r ysgol honno (rheoliad 5(3)).

Caniateir marcio disgybl yn y gofrestr bresenoldeb fel un sy'n analluog i fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol pan fo safle'r ysgol wedi ei gau, neu ran ohono wedi ei chau, neu pan nad yw'r cludiant ar gael, a ddarperir fel arfer i'r disgybl hwnnw gan yr ysgol neu gan yr awdurdod lleol (rheoliad 6(1)).

Pan fo disgybl yn mynychu ysgol arall lle y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig, rhaid ei farcio yn y gofrestr bresenoldeb fel un sy'n mynychu gweithgaredd addysgol cymeradwy (rheoliad 6(4)).

Pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn mwy nag un ysgol, ni cheir dileu ei enw o gofrestr dderbyn ysgol y peidiodd â'i mynychu oni fydd perchennog unrhyw ysgol arall lle y mae'r disgybl wedi ei gofrestru yn cydsynio (ac eithrio pan fydd farw disgybl, neu pan waherddir disgybl yn barhaol, neu pan nad oes gan ddisgybl breswylfa barhaol) (rheoliad 8(1)(c) a 9).

Cyn y ceir dileu enw disgybl o'r gofrestr dderbyn ar y sail na ddychwelodd ar ôl cael caniatâd i fod yn absennol am fwy na deng niwrnod, rhaid i berchennog yr ysgol yn ogystal â'r awdurdod lleol, ar ôl gwneud ymholiad rhesymol, fod wedi methu â chanfod lle y mae'r disgybl hwnnw (rheoliad 8(1)(dd)).

Mae'r cyfnod o absenoldeb diawdurdod di-dor disgybl sy'n sail dros ganiatáu, ar ôl hynny, ddileu enw'r disgybl o'r gofrestr dderbyn, wedi ei newid i ugain diwrnod ysgol, ac yn ychwanegol mae'n rhaid nad oes gan y perchennog sail resymol dros gredu bod y disgybl yn analluog i fynychu'r ysgol oherwydd salwch neu unrhyw achos anocheladwy arall (rheoliad 8(1)(f)).

Yn achos disgybl a gedwir yn gaeth yn unol â gorchymyn terfynol llys neu orchymyn adalw, ni chaniateir bellach ddileu ei enw o'r gofrestr dderbyn ac eithrio pan yw'r gorchymyn i barhau am gyfnod o bedwar mis o leiaf, ac nad oes gan y perchennog sail resymol dros gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i'r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw (rheoliad 8(1)(ff)).

Mae'r gofyniad i wneud datganiad i'r awdurdod lleol pan ddilëir enw disgybl ar seiliau penodol yn cael ei estyn. Mae'r gofyniad hwnnw bellach yn gymwys hefyd i ddileadau o dan reoliad 8(1)(c), (ch), (e), (ff) ac (i) (rheoliad 12(3)).

Os cedwir cofrestr ar gyfrifiadur, rhaid creu copi wrth gefn o'r gofrestr honno, o leiaf unwaith y mis, ar ffurf copi electronig, microfiche neu brintiedig (rheoliad 15(2)).