Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 2002 (Cy.188) (C.106)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 1) 2010
Gwnaed
5 Awst 2010
Yn dod i rym
26 Awst 2010
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 1) 2010 a daw i rym ar 26 Awst 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005(3), hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Powys”.
Rosemary Thomas
Prif Gynllunydd/Dirprwy Gyfarwyddwr o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.
5 Awst 2010.
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirwyn i ben y trefniadau trosiannol a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Rhif 4”) mewn perthynas â Chyngor Sir Powys (“y Cyngor”).
O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pen draw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedig o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau gweithio ar baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dileu enw'r Cyngor oddi ar y rhestr o awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly'n gosod y Cyngor dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.
Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).