- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Os dygir achos cyfreithiol o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) (achos gerbron ynadon gan berson a dramgwyddir gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy'n dod o fewn paragraff (g) o adran 79(1) o'r Ddeddf honno (sŵn sy'n dod o fangre fel ei fod yn rhagfarnu iechyd neu'n niwsans) rhaid peidio â gwneud gorchymyn, ac ni chaniateir gosod dirwy, o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno os dengys y diffynnydd—
(a)bod y niwsans yn ymwneud â mangre a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd awdurdodedig ac y gellir tadogi'r niwsans ar wneud y gweithfeydd awdurdodedig sy'n cael eu gwneud yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(2) neu â chydsyniad a roddwyd o dan adran 61 neu 65 o'r Ddeddf honno; neu
(b)bod y niwsans yn ganlyniad i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi.
(2) Ni fydd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, sef—
(a)adran 61(9) (bod cydsyniad i waith ar safle adeiladu i gynnwys datganiad nad yw ynddo'i hun yn ffurfio amddiffyniad mewn achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990), a
(b)adran 65(8) (darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â chydsyniad i fynd dros ben lefel sŵn cofrestredig),
yn gymwys pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â defnydd o fangre gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd.
(3) Gwneir darpariaethau'r erthygl hon heb ragfarnu cymhwysiad adran 122 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(3) (awdurdod statudol fel amddiffyniad i achosion mewn niwsans, etc.) at y gweithfeydd awdurdodedig nac i gymhwysiad unrhyw reol mewn cyfraith gwlad sy'n cael effaith gyffelyb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: