RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Y pŵer i docio coed sy'n tyfu dros ben y gweithfeydd awdurdodedig12

1

Caiff yr ymgymerwr dorri i lawr neu docio unrhyw goeden neu berth gerllaw unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri eu gwreiddiau'n ôl, os yw'n credu'n rhesymol bod angen gwneud hynny er mwyn rhwystro'r goeden neu'r berth—

a

rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir yn y gweithfeydd awdurdodedig; neu

b

rhag bod yn berygl i deithwyr neu i bobl eraill sy'n defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.

2

Wrth arfer pwerau paragraff (1), rhaid i'r ymgymerwr beidio â gwneud difrod dianghenraid i unrhyw goeden na pherth a rhaid iddo dalu iawndal i unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o arfer y pwerau hynny.

3

Dyfernir ar unrhyw anghydfod parthed hawl person i iawndal o dan baragraff (2), neu parthed swm yr iawndal, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.