xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn awdurdodi Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i adeiladu a gweithio rheilffordd newydd (“y rheilffordd estyniadol”) o Gorwen i Garrog yn Sir Ddinbych ynghyd â gweithfeydd a chyfleusterau cysylltiedig. Fe adeiledir y rheilffordd estyniadol gan mwyaf ar wely'r rhan o'r hen reilffordd o Riwabon i Forfa Mawddach a bydd yn cynnwys cyffordd gyda rheilffordd bresennol yr Ymddiriedolaeth yng Ngharrog. Yn ychwanegol at hynny mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaethau eraill o ran y rheilffordd estyniadol a'r rheilffordd bresennol.

Nid yw'r Gorchymyn yn cynnwys pwerau prynu gorfodol a byddir drwy gytundeb yn caffael buddiannau yn y tir neu hawliau drosto a'r rheini'n fuddiannau neu'n hawliau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithfeydd.

Gellir archwilio copi o blan y gweithfeydd yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Gorsaf y Rheilffordd, Ffordd yr Abaty, Llangollen LL20 8SN.