8.—(1) Rhaid i gais am grant gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1).
(2) Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais ar y dyddiad cau neu cyn hynny.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os ydynt wedi'u bodloni—
(a)bod amodau penodol y ceisydd yn peri ei bod yn afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a
(b)bod y dyddiad erbyn pryd y gwneir y cais mor fuan ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.