4.—(1) Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn a Rheoliad y Comisiwn 124/2009.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion—
(a)Erthygl 2(2) (cyfiawnhau gan weithredwyr busnes bwyd ffactorau crynodi neu wanedu), a
(b)Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i ymchwilio i'r rhesymau dros yr halogiad),
yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno i orfodi o dan baragraff (1).