
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau neu eu dilysu
3.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys os cydnabyddir person (neu os caiff ei drin fel pe cydnabyddir ef), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(cb) o Ddeddf 1997(), a'i fod yn dyfarnu neu'n dilysu cymhwyster sy'n cael ei achredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.
(2) Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, bernir bod y person yn cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu'r cymhwyster hwnnw neu'r disgrifiad hwnnw o gymhwyster.
Back to top