Gorchymyn Deddf Lleihau Troseddu Treisgar 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2426 (Cy.208) (C.119)

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Lleihau Troseddu Treisgar 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010

Gwnaed

2 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 66(2) a (3)(a) o Ddeddf Lleihau Troseddu Treisgar 2006(1), ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(2)

Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adran 66 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).