Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2447 (Cy.210)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010

Gwnaed

5 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Hydref 2010

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010. Daw i rym ar 1 Tachwedd 2010.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cymeradwyo trapiau sbring

2.—(1At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi'u cymeradwyo, sef—

(a)unrhyw drap sbring—

(i)o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a

(ii)sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu'r cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a

(b)unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.

(2Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.

Dirymu

3.   Dirymir Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring 1995(3) i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

5 Hydref 2010

Erthygl 2

YR ATODLEN

Colofn (1)Colofn (2)
Y math o drap a'i wneuthuriadAmodau
Aldrich Spring Activated Animal Snare gweithgynhyrchydd: Mr D Schimetz, PO Box 158, Sekiu, Washington 98381, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cigysyddion mawr, mamalaidd, anghynhenid. Rhaid defnyddio'r trap yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
BMI Magnum 55 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 110 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 116 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
DOC 150 gweith gynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 200 gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 250 gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
Fenn Rabbit Trap Mark I gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cwningod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark I, Vermin Trap Mark II, Vermin Trap Mark III a Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891 fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno, a'r Springer No 4 Multi-purpose (Heavy Duty) a weithgynhyrchwyd gan neu o dan awdurdod AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, Hoopers Lane, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891, a'r Springer No 6 Multi-purpose a weithgynhyrchwyd gan neu o dan awdurdod AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a dargedwyd.
Fuller Trap gweithgynhyrchydd: Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwick, Sussex.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid i'r trap fod wedi'i ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Imbra Trap Mark I a Mark II, gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 682,427 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 4 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Juby Trap gweithgynhyrchydd: y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Whitehall Place, London SW1 ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 813,066 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2000 gweithgynhyrchydd: C E Kania Corporation, 124-21, 10405, Jasper Avenue, Edmonton, Alberta, Canada.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid i'r trap fod wedi'i ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2500 gweithgynhyrchydd: Kania Industries Inc, 63 Centennial Road, Nanaimo, British Columbia, Canada, V9R 6N6.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(4) gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Lloyd Trap gweithgynhyrchydd: National Research Corporation, ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 987,113 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, New Zealand.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski mouse trap gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, New Zealand.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Sawyer Trap gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Skinns Superior Squirrel Trap gweithgynhyrchydd: E.Skinns Ltd., Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 4 gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(5) gwiwerod llwyd, llygod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 6 gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(6) gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
WCS Collarum gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, CT 06026, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben atal llwynogod.
WCS Tube Trap gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, CT 06026, USA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os gweithgynhyrchydd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae'n dramgwydd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi'i gymeradwyo drwy Orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring 1995 o ran Cymru. Mae erthygl 2 yn pennu'r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng ngholofn (1) o'r Atodlen ac eraill sy'n gyfwerth ym mhob modd â'r rheini a restrir. Mae'r Gorchymyn yn ychwanegu 11 math o drapiau at y rhai a gymeradwywyd o dan y Gorchymyn blaenorol. Pennir yr amodau a atodir i'r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng ngholofn (2) o'r Atodlen. Diwygiwyd yr amodau o'r Gorchymyn blaenorol i sicrhau bod trap yn cael ei osod mewn modd a fydd yn lleiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn am nad oes ganddo effaith ar gostau busnes.

(2)

Cafodd y pwerau o dan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954 eu datganoli, o ran Cymru, i Weinidogion Cymru; gweler y cyfeiriad at Ddeddf Plâu 1954 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1995/2427 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(4)

Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.

(5)

Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.

(6)

Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.