xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
18 Hydref 2010
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006,
ystyr “Deddf 1996” (“the EA 1996”) yw Deddf Addysg 1996.
2. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—
(a)adran 88;
(b)adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)adrannau 90 a 91;
(ch)adran 92 ac eithrio isadran 8(b):
(d)adrannau 93 i 95;
(dd)adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 97;
(f)adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(3);
(ff)adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;
(g)adran 108:
(ng)adran 167;
(h)adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);
(i)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—
yn Neddf 1996, adrannau 550A a 550B,
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4), adran 61 (yn llawn),
yn Neddf Addysg 1997(5), adrannau 4 a 5,
yn Neddf Addysg 2002(6), y diffiniad o “pupil” yn adran 176(3),
yn Neddf Gofal Plant 2006(7), paragraff 42 o Atodlen 2.
3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 5 Ionawr 2011 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adrannau 98 a 99; a
(b)adran 102.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 88 i 99, 102, 108 a 167 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 31 Hydref 2010. Mae adrannau 98, 99 a 102 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion gwneud rheoliadau ar 31 Hydref 2010 ac yn cychwyn yn llawn ar 5 Ionawr 2011.
Mae adran 88 i 96 yn ymwneud â disgyblaeth ac ymddygiad mewn ysgol a gwaharddiad o'r ysgol. Maent yn sefydlu pŵer statudol i orfodi disgyblaeth ysgol a mesurau mwy penodedig sy'n ymwneud â disgyblion a waharddwyd a chyfrifoldeb rhieni am ymddygiad plant. Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn ailddeddfu darpariaethau cyfreithiol eraill ar gyfrifoldebau cyrff llywodraethu am ddisgyblu a phenderfyniad y pennaeth ar bolisi ymddygiad.
Mae adrannau 97 i 99 yn ymestyn argaeledd contractau rhianta a gorchmynion rhianta mewn perthynas â chamymddwyn mewn ysgol.
Mae adran 102 yn caniatáu ar gyfer rheoliadau a all ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid drefnu cyfweliadau ailintegreiddio ar gyfer disgyblion a waharddwyd.
Mae adran 108 yn ymestyn pwerau'r heddlu i symud triwantiaid o fannau cyhoeddus yn ystod oriau ysgol yn adran 16 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i gynnwys disgyblion a waharddwyd.
Mae adran 167 yn diwygio adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel bod y gofyniad i ymgynghori â disgyblion a osodwyd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gymwys mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg feithrin.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 4 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 37(1) a (2)(a) | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 38 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 39 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 40 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adrannau 43-45 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 47 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 53 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 55 | 9 Chwefror 2009 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 57 yn rhannol | 15 Mawrth 2010 | 2010/736 (Cy.73) |
gweddill | 2 Ebrill 2010 | |
Adran 89 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 96 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 156 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 164 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 166 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 169 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 170 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 171 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 175 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 184 yn rhannol | 2 Ebrill 2010 | 2010/736 (Cy.73) |
Atodlen 5 yn rhannol | 15 Mawrth 2010 | 2010/736 (Cy.73) |
gweddill | 2 Ebrill 2010 | |
Atodlen 17 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Atodlen 18 yn rhannol | 2 Ebrill 2010 | 2010/736 (Cy.73) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).
2006 p.40. Diwygir adran 181 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2).
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).