xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gydag addasiadau y Rheoliadau canlynol—

sydd i gyd wedi eu gwneud o dan bwerau yn Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989 Act”). Diddymir y pwerau yn Rhan XA o Ddeddf 1989 mewn Gorchymyn ar wahân, sydd hefyd yn gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”); mae'r pwerau yn Rhan 2 o'r Mesur yn cydweddu'n fras â'r pwerau yn Rhan XA o Ddeddf 1989. Yn Rhan 2 o'r Mesur darperir ar gyfer cofrestru ac arolygu gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, a chynhwysir pwerau hefyd i wneud rheoliadau i lywodraethu gweithgareddau personau o'r fath. Mae adran 30 o'r Mesur yn cynnwys pŵer newydd sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fydd yn galluogi parhau i ddarparu gofal dydd mewn amgylchiadau rhagnodedig ar ôl marwolaeth y person cofrestredig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu'n darparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed (“darparwyr gofal dydd”) mewn mangreoedd yng Nghymru.

Yn rheoliad 3 ac Atodlen 1 pennir y gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gais am gofrestriad gael ei ganiatáu gan Weinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaeth ynghylch addasrwydd y darparydd a phersonau eraill a fydd yn gofalu am blant perthnasol, neu mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd. Yn rheoliad 4 ac Atodlen 2, rhagnodir yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ynghyd â chais am gofrestriad. Mae'r gofynion ar gyfer gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn wahanol.

Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau 2002 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chofrestru gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd; ac y maent hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu amrediad eang o sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud â darparu gofal mewn amrywiaeth o leoliadau. Diwygir y Rheoliadau hynny gan Ran 7 ac Atodlenni 5 a 6, i adlewyrchu'r ffaith bod y ddarpariaeth ar gyfer cofrestru gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd wedi ei chynnwys bellach yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 (rheoliadau 6 i 11) yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd personau i weithredu fel gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, ac yn gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ar gael ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 1. Os yw darparydd gofal dydd yn sefydliad rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol, y bydd yr wybodaeth ragnodedig ar gael mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol ynglŷn â darparu gofal gan bersonau cofrestredig ac ynglŷn â hyfforddiant. Mae rheoliad 10 yn cynnwys gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch collfarnu person am dramgwyddau troseddol a'i gyhuddo o rai tramgwyddau penodedig. Mae rheoliad 11 yn rhagnodi amgylchiadau pan ganiateir i gynrychiolwyr personol barhau i ddarparu gofal dydd yn dilyn marwolaeth y person cofrestredig.

Mae Rhan 4 (rheoliadau 12 i 19) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gofynion cyffredinol sy'n gymwys i bersonau a gofrestrir o dan Ran 2 o'r Mesur, ac ar gyfer gorfodi. Yn benodol, mae rheoliadau 12 ac 14 yn gwneud yn ofynnol bod personau cofrestredig yn cydymffurfio â gofynion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn ac yn rhoi sylw i safonau gofynnol cenedlaethol, ac yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn achosion cyfreithiol o dan y Rhan honno, gymryd i ystyriaeth, yn eu trefn, bod person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â Rhan 5 neu wedi peidio â rhoi sylw i'r safonau perthnasol. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer llunio, gan bersonau cofrestredig, datganiad o ddiben a fydd yn cynnwys nodau ac amcanion a materion perthnasol eraill ynglŷn â'r gwasanaeth sydd i'w ddarparu i blant o dan ofal y person cofrestredig. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer tramgwyddau am fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio â Rhan 5.

Mae Rhan 5 (rheoliadau 20 i 38) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gweithgareddau personau a gofrestrir o dan Ran 2 o'r Mesur. Mae rheoliadau 20 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â lles a datblygiad plant perthnasol sydd o dan ofal personau cofrestredig ac, yn benodol, ynglŷn â hyrwyddo lles plant o'r fath, darparu bwyd a darparu a gweithredu polisïau ar amddiffyn plant a rheoli ymddygiad.

Mae rheoliadau 27 i 29 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â niferoedd, cymwysterau, profiad ac addasrwydd y rhai sy'n gweithio i bersonau cofrestredig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â'r wybodaeth sy'n ofynnol ynglŷn â gweithwyr, cyn y cânt weithio i warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion a darparu gwybodaeth, i rieni plant perthnasol y gofelir amdanynt gan warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd, ac i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliadau 32 i 36 yn gwneud darpariaeth ar gyfer paratoi a dilyn gweithdrefn gwynion gan bersonau cofrestredig.

Mae rheoliadau 37 a 38 yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd mangreoedd lle y darperir gofal, y cyfarpar a'r cyfleusterau a ddarperir ar y mangreoedd hynny ac ynglŷn â rhagofalon tân.

Yn Rhan 6, pennir o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad person dros dro, a darperir ar gyfer hawl apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf (a sefydlir yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007).

Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer gwneud cais gan berson cofrestredig am atal ei gofrestriad dros dro yn wirfoddol, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru; nid oes hawl apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod gweithredu ar ôl cael hysbysiad o ataliad gwirfoddol dros dro.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer diwygio, dirymu ac gwneud arbedion. Mae rheoliad 47 ac Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2002. Mae rheoliad 48 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth sy'n dirymu rheoliadau penodedig ac y mae rheoliad 49 yn darparu ar gyfer arbedion.