RHAN 1RHAGARWEINIOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal dydd (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ADA” (“ISA”) yw Awdurdod Diogelu Annibynno(1));
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais i Weinidogion Cymru i'w gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd yn unol â Rhan 2;
ystyr “darpariaeth chwarae mynediad agored” (“open access play provision”) yw darpariaeth o ofal dydd pan nad yw'n ofynnol—
(a)trefnu ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu
(b)bod y plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno;
mae i “darparu gofal dydd i blant” (“provides day care for children”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(2);
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad a lunnir yn unol â rheoliad 15(1);
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw mangre lle y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant, neu, yn ôl fel y digwydd, mangre lle y darperir gofal dydd gan berson cofrestredig;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “person â chyfrifoldeb” (“person in charge”,) mewn perthynas â gofal dydd, yw'r unigolyn a benodir gan y person cofrestredig i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd;
ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant mewn perthynas ag ef, neu, yn ôl fel y digwydd, plentyn y mae person cofrestredig yn darparu gofal dydd iddo;
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(3);
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(4);
ystyr “safonau gofynnol cenedlaethol” (“national minimum standards”) yw'r safonau a bennir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 30(03) o'r Mesur(5);
ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—
(a)os oes swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw fangre, y swyddfa honno;
(b)mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa a reolir gan Weinidogion Cymru;
mae i “Tribiwnlys Haen Cyntaf” (“First-tier Tribunal”) yr ystyr sydd i “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(6);
ystyr “tystysgrif cofnod troseddol fanylach” (“enhanced criminal record certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(7), sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn cysylltiad â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno), ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y cyfryw;
ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”), mewn perthynas â darparu gofal dydd gan sefydliad—
(a)sy'n gorff corfforaethol yw—
(i)cyfarwyddwr;
(ii)rheolwr;
(iii)ysgrifennydd; neu
(iv)swyddog arall;
neu
(b)sy'n gymdeithas anghorfforaethol, yw—
(i)swyddog; neu
(ii)aelod,
o'r sefydliad hwnnw sy'n gyfrifol am oruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd;
ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw—
(a)bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur, yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 (8); neu
(b)bod person yn aelod o'r un aelwyd neu'n gyflogedig yn yr un aelwyd â pherson a anghymhwyswyd yn unol â pharagraff (a);
ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” (“child protection enquiries”) yw unrhyw ymholiadau a gyflawnir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan neu o dan Ddeddf Plant 1989(9) mewn cysylltiad ag amddiffyn plant;
mae i “yn gweithredu fel gwarchodwr plant” (“acts as a child minder”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(10).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre berthnasol a leolir mewn ardal benodol yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person pa un ai am dâl neu hebddo, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu rywfodd heblaw dan gontract, ac yn cynnwys caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at berson a gyflogir yn unol â hynny.
Yr Awdurdod Diogelu Annibynnol yw enw gweithredol y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, sef corff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (2006 p.47).
Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.
O.S. 2002/919 (Cy.107); gwnaed diwygiad perthnasol gan OS 2009/3265 (Cy.286).
Mae copïau o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.