xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Ni chaiff person weithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(2) Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, a phob unigolyn yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)mewn achos pan fo person sy'n darparu gofal dydd, yn sefydliad ac—
(i)y sefydliad wedi hysbysu'r swyddfa briodol o enw a chyfeiriad yr unigolyn cyfrifol a'i safle o fewn y sefydliad; a
(ii)yr unigolyn cyfrifol yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)mewn perthynas â gwarchod plant—
(i)bod y person sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 2 i 7 o Ran 1 o Atodlen 1; a
(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r unigolyn hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 2, 16 ac 17 o Ran 1 o Atodlen 2;
(b)mewn perthynas â darparu gofal dydd—
(i)pan fo'r person yn unigolyn ac nad yw paragraff (4) yn gymwys—
(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 15 i 20 o Ran 2 o Atodlen 1; a
(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 22, 39 a 40 o Ran 2 o Atodlen 2;
(ii)pan fo'r person yn unigolyn a pharagraff (4) yn gymwys—
(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 15 i 20 o Ran 2 o Atodlen 1; a
(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 22(5) (b) a 39 o Ran 2 o Atodlen 2;
(iii)os y person yw'r unigolyn cyfrifol ac nad yw paragraff (4) yn gymwys–
(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 21 i 25 o Ran 2 o Atodlen 1; a
(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 24(2), 3(a), a (4), 39 a 40 o Ran 2 o Atodlen 2;
(iv)os y person yw'r unigolyn cyfrifol a pharagraff (4) yn gymwys—
(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 21 i 25 o Ran 2 o Atodlen 1; a
(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 24(2) a (3)(b), a 39 o Ran 2 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(1) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 5
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn i fod yn person â chyfrifoldeb am ddarpariaeth gofal dydd—
(a)os yw'r person cofrestredig yn sefydliad, ac os nad yw'r unigolyn cyfrifol yn ymgymryd, neu os nad yw'n bwriadu ymgymryd, â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am y ddarpariaeth gofal dydd; neu
(b)os yw'r person cofrestredig yn unigolyn ac nad yw'n ymgymryd, neu nad yw'n bwriadu ymgymryd, â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am y ddarpariaeth gofal dydd.
(2) Pan fo'r person cofrestredig yn penodi unigolyn i fod yn berson â chyfrifoldeb, rhaid i'r person cofrestredig—
(a)sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn addas i fod yn berson â chyfrifoldeb am ddarparu gofal dydd; a
(b)hysbysu'r swyddfa briodol ar unwaith o'r dyddiad y bydd y person â chyfrifoldeb yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i berson beidio â gweithredu fel person â chyfrifoldeb am ddarpariaeth gofal dydd onid yw'n berson addas i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn addas felly onid yw'r person yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw fod y person—
(a)yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff 27 i 31 o Ran 2 of Atodlen 1; a
(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 25, 39 ac 40 o Ran 2 o Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig, gan roi sylw —
(a)i'r datganiad o ddiben, nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o anabledd), a
(b)i'r angen i ddiogelu a hyrwyddo'u lles,
weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, cymhwysedd a medrusrwydd digonol.
(2) Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.
(4) Os yw'r person cofrestredig yn sefydliad sy'n darparu gofal dydd, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
(5) Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Os ceir y person cofrestredig, y person â chyfrifoldeb neu'r unigolyn cyfrifol yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol, pa un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol, ar unwaith ac mewn ysgrifen, o'r canlynol—
(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn;
(b)y tramgwydd y cafwyd y person yn euog ohono; ac
(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os cyhuddir y person cofrestredig neu'r person â chyfrifoldeb o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(1) rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol ar unwaith mewn ysgrifen, o'r tramgwydd y'i cyhuddwyd ohono, a dyddiad a lleoliad y cyhuddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11.—(1) Os oes mwy nag un person wedi eu cofrestru mewn perthynas â darpariaeth gofal dydd, ac os bydd farw un o'r personau cofrestredig, rhaid i berson cofrestredig sy'n goroesi hysbysu'r swyddfa briodol o'r farwolaeth, mewn ysgrifen o fewn 14 diwrnod ar ôl y farwolaeth.
(2) Os un person yn unig a gofrestrwyd mewn perthynas â darpariaeth gofal dydd, ac os bydd farw'r person hwnnw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r swyddfa briodol mewn ysgrifen—
(a)o farwolaeth y person cofrestredig o fewn 14 diwrnod ar ôl y farwolaeth honno; a
(b)o fewn 28 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig, o'u bwriadau ynglŷn â rhedeg y ddarpariaeth gofal dydd yn y dyfodol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff cynrychiolwyr personol person a gofrestrwyd i ddarparu gofal dydd ac a fu farw barhau i weithredu'r ddarpariaeth gofal dydd heb eu cofrestru mewn perthynas â hi—
(a)am gyfnod na fydd yn hwy nag 28 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig; a
(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gyfnod at ddibenion paragraff (3)(b), na fydd yn hwy nag un flwyddyn ar ôl marwolaeth y person cofrestredig, a rhaid iddynt hysbysu'r cynrychiolwyr personol o unrhyw benderfyniad o'r fath, mewn ysgrifen.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person â chyfrifoldeb i reoli'r ddarpariaeth gofal dydd yn ystod y cyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn parhau i weithredu'r ddarpariaeth gofal dydd heb eu cofrestru mewn perthynas â hi.
(6) Os bydd farw person a gofrestrwyd mewn perthynas â gwarchod plant, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r swyddfa briodol, mewn ysgrifen o fewn 14 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)