RHAN 4GOFYNION CYFFREDINOL A GORFODI

Safonau gofynnol cenedlaethol14

1

Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol sy'n ymwneud â'r math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.

2

Bydd unrhyw honiad bod y person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn fater y caiff Gweinidogion Cymru ei gymryd i ystyriaeth wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn unrhyw achos o dan y Rhan honno o'r Mesur.