RHAN 4GOFYNION CYFFREDINOL A GORFODI
Adolygu ansawdd y gofal16
1
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant.
2
Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) darparu—
a
ar gyfer adolygu ansawdd y gofal yn flynyddol, o leiaf; a
b
i'r person cofrestredig gasglu safbwyntiau—
i
plant perthnasol;
ii
rhieni plant perthnasol;
iii
awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol; a
iv
personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol,
ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir, yn rhan o unrhyw adolygiad a ymgymerir.
3
Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod, baratoi adroddiad ar yr adolygiad, a rhoi copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano gan—
a
rhieni plant perthnasol;
b
awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol;
c
personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol; ac
ch
Gweinidogion Cymru.