16.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) darparu—
(a)ar gyfer adolygu ansawdd y gofal yn flynyddol, o leiaf; a
(b)i'r person cofrestredig gasglu safbwyntiau—
(i)plant perthnasol;
(ii)rhieni plant perthnasol;
(iii)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol; a
(iv)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol,
ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir, yn rhan o unrhyw adolygiad a ymgymerir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod, baratoi adroddiad ar yr adolygiad, a rhoi copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano gan—
(a)rhieni plant perthnasol;
(b)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol;
(c)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol; ac
(ch)Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)