RHAN 4GOFYNION CYFFREDINOL A GORFODI

Asesu'r gwasanaethI117

1

Caiff Gweinidogion Cymru ofyn, ar unrhyw adeg, i'r person cofrestredig gyflawni asesiad o'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i blant perthnasol.

2

O fewn 28 diwrnod ar ôl cael cais o dan baragraff (1) rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno'r asesiad i'r swyddfa briodol yn y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw'r asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.