RHAN 5GWEITHGAREDDAU PERSONAU A GOFRESTRIR O DAN RAN 2 O'R MESUR
Ymdrin â chwynionI133
1
Rhaid gweithredu'r weithdrefn gwynion a baratoir yn unol â rheoliad 32 yn unol â'r egwyddor o ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn, a rhaid rhoi sylw i ddymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.
2
Os gwneir cwyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod hawl ganddo, ar unrhyw adeg, i gwyno wrth Weinidogion Cymru neu, pan fo'n berthnasol, wrth yr awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.
3
Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y tybia'r person cofrestredig y gallent fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo'n berthnasol, a'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig ddweud wrth yr achwynydd fod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i'r achwynwyr, a bod rhaid iddo, yn benodol, gynnig help i gael eiriolwr.
4
Caiff y person cofrestredig, mewn unrhyw achos pan fo'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu gymorth arall at y diben o ddatrys y gŵyn.
5
Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gŵyn, canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw weithredu fel ymateb.
6
Os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r person cofrestredig gyflenwi datganiad i'r swyddfa briodol, a fydd yn cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.