Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28

ATODLEN 1LL+CY GOFYNION RHAGNODEDIG AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—

(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a

(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

RHAN 1LL+CY gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant

Gofynion mewn perthynas â'r ceisyddLL+C

2.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F46.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Pan fo'n briodol(1), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staffLL+C

8.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F5o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F6o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

10.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F7o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

11.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

12.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arallLL+C

13.[F8(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CY gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd

Gofynion mewn perthynas â'r ceisydd: unigolynLL+C

14.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

15.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F9o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

16.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

17.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F10o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

18.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F11o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F1219.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

20.  Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliadLL+C

21.  Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–

(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F13o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; neu

(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant [F14o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

22.  Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant [F15o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

23.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant [F16o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F1724.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

25.  Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â'r person â chyfrifoldebLL+C

26.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

27.  Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F18o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

28.  Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F19o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

29.  Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F20o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F2130.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

31.  Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staffLL+C

32.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F22o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

33.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F23o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

34.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F24o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

35.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

36.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arallLL+C

37.[F25(1) >Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.