- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, Paragraff 24.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
24.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—
(a)darparu gofal dydd i blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] ,
(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 24(3)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 24(3)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 24(4)(d)(ii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: