ATODLEN 2LL+CGWYBODAETH A DOGFENNAU SY'N OFYNNOL AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

RHAN 2LL+CGwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd

Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliadLL+C

24.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—

(a)darparu gofal dydd i blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] ,

(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.