- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.
(5) Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
(6) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.
3. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.
4. Y datganid o ddiben.
5. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.
6. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
7. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
8. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
9. Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.
10. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
11. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben
12.—(1) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
13. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
14. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.
15. Tystysgrif geni'r ceisydd.
16. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.
17. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.
18. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.
19.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol(1), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(2) Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: