Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, RHAN 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 2LL+CGwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd

DehongliLL+C

21.  Yn Rhan hon—

  • ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—

    (a)

    priod neu bartner sifil y person hwnnw;

    (b)

    unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;

    (c)

    priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),

    (ch)

    ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae [F1cyfeiriadau at “priod neu bartner sifil” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn briod neu bartner sifil a pherson sy’n byw gyda’r person fel pe baent yn bâr priod neu’n bartneriaid sifil] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y ceisydd: unigolynLL+C

22.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

(2Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.

(5Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; a

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y ceisydd: sefydliadLL+C

23.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.

(2Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.

(3Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.

(4Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

(5Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliadLL+C

24.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—

(a)darparu gofal dydd i blant [F4o dan ddeuddeng mlwydd oed] ,

(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant [F5o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant [F6o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.

Gwybodaeth am y person â chyfrifoldebLL+C

25.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant [F7o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant [F8o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y gofal a ddarperirLL+C

26.  Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

27.  Y datganiad o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

28.  Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

29.  Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

30.  Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a

(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

31.  Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

32.  Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am bersonau eraill: staffLL+C

33.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;

(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

34.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;

(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;

(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;

(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;

(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;

(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,

(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant [F9o dan ddeuddeng mlwydd oed] a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;

(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;

(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;

(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;

(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—

(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,

(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;

(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ynghylch personau eraill: pob person arallLL+C

35.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

36.  At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

37.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Y dogfennau sydd i'w cyflenwiLL+C

38.  Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

39.  Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

40.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd [F10o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

41.  Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

42.—(1Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

43.  Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

44.  Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

45.  Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

46.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F11o dan ddeuddeng mlwydd oed].

(2Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources