xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 30
1. Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, yn gweithio neu a gyflogir yn y fangre berthnasol .LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon unrhyw berson arall a ddaw i gysylltiad â'r plant perthnasol yn rheolaidd heb oruchwyliaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad a rhif teleffon rhiant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y cofrestrwyd y plentyn gydag ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, oriau eu presenoldeb ac enwau'r personau a fu'n gofalu amdanynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Cofnod o ddamweiniau, salwch difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd yn fangre berthnasol ac a effeithiodd ar les plant perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a gafodd ei weini i blentyn perthnasol ar y fangre berthnasol, gan gynnwys y dyddiad a'r amgylchiadau a chan bwy y cafodd y feddyginiaeth ei gweini, a chan gynnwys unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu gweini ei hunan, ynghyd â chofnod o ganiatâd y rhiant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw anghenion dietegol arbennig, neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
12. Datganiad o'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i'w diogelu rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os gwneir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
13. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd i blentyn perthnasol fynd ar goll neu beidio â chael ei gasglu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
14. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu gorff llywodraethu ceisydd sy'n gymdeithas anghorfforedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)